Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o longyfarch derbynwyr Gwobr y Gyfraith nodedig am Gyflawniad Rhagorol eleni, a noddir gan Jennifer Melly Law. Cyflwynwyd tystysgrifau a thlysau i enillwyr gwobrau 2026, Sali Watkins a Flynn McGinley, yn ystod dathliad arbennig a gynhaliwyd yn swyddfeydd Jennifer Melly Law yng Nghastell-nedd.
Roedd Sali a Flynn ill dau’n rhan o raglen GATE (Rhagoriaeth Galluog a Thalentog) y Coleg, sy’n cefnogi cyflawnwyr uchel i gyrraedd eu potensial academaidd llawn. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchu nid yn unig eu hymroddiad i Safon Uwch yn y Gyfraith, ond hefyd eu cyfraniadau ehangach at gyfleoedd cyfoethogi o fewn y pwnc.
Mae Flynn yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Warwick, ar ôl cyflawni A* yn ei arholiad Safon Uwch yn y Gyfraith. Mae’n gobeithio sefyll arholiad y Bar a dilyn gyrfa fel bargyfreithiwr.

Mae Sali yn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ôl cael gradd A yn ei harholiad Safon Uwch yn y Gyfraith. Mae hi’n ystyried ymgymryd â chwrs trosi i’r gyfraith ar ôl cwblhau ei gradd.

Mae Gwobr y Gyfraith wedi cael ei chefnogi gan Jennifer Melly Law ers 2012, gan nodi partneriaeth hirhoedlog rhwng y cwmni lleol uchel ei barch a Grŵp Colegau NPTC. Gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad o gefnogi cleientiaid gydag ystod eang o wasanaethau cyfreithiol, mae’r cwmni wedi dangos yn gyson ei ymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr cyfreithiol proffesiynol. Bob blwyddyn, mae dau fyfyriwr rhagorol yn cael eu cydnabod drwy’r wobr hon a’u gwahodd i fynychu’r seremoni gyflwyno yn swyddfa’r cwmni yng Nghastell-nedd. Fel rhan o’u cyflawniad, cynigir lleoliadau profiad gwaith gwerthfawr i dderbynwyr hefyd, gan roi cipolwg unigryw iddynt ar y proffesiwn cyfreithiol.

Mae Sali a Flynn wedi cael eu cydnabod nid yn unig am eu rhagoriaeth academaidd mewn Safon Uwch yn y Gyfraith, ond hefyd am eu cyfranogiad gweithredol yng Nghystadleuaeth Ffug Dreial y Bar, a gynhelir yn flynyddol yn Llys y Goron Caerdydd. Yn 2024, cyflawnodd Grŵp Colegau NPTC ail safle trawiadol, diolch yn rhannol i berfformiadau eithriadol myfyrwyr fel Sali a Flynn yn ymgymryd â rôl bargyfreithwyr.
Wrth siarad am y bartneriaeth barhaus, dywedodd darlithwyr y Gyfraith yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Hoffem estyn ein diolch diffuant i Jennifer Melly Law am eu cefnogaeth barhaus i’n myfyrwyr Safon Uwch yn y Gyfraith. Gwerthfawrogwn yn fawr eu hymrwymiad i gynnal y gwobrau a dathlu llwyddiant myfyrwyr. Rydym hefyd yn cydnabod y gwerth ychwanegol a ddarperir drwy’r cynnig profiad gwaith, sy’n galluogi myfyrwyr i gael cipolwg ystyrlon ar y proffesiwn cyfreithiol.”
Mae Grŵp Colegau NPTC yn dymuno pob llwyddiant i Sali a Flynn yn eu hymdrechion yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at ddathlu eu cyflawniadau parhaus.