CYFLWYNIAD

Mae’r adran hon yn cwmpasu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherthynas y sefydliad â’i amgylchedd allanol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau ffurfiol y mae’n ofynnol i’r sefydliad eu darparu ar gyfer ei gyrff cyllido, trefniadau gyda sefydliadau eraill, sut y mae’n rheoli ei berthynas â’r gymuned leol a sut y mae’n cadw mewn cysylltiad â’i gyn-staff a’i gyn-fyfyrwyr.

Oherwydd eu natur, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn ôl pob tebyg yn cael bod mwyafrif y dosbarthiadau hyn eisoes ar gael i’r cyhoedd mewn rhyw ffordd. Mae aelodau o’r cyhoedd hefyd yn debygol o gael bod yr un wybodaeth neu wybodaeth gysylltiedig ar gael gan y partneriaid allanol y mae gan y sefydliad gysylltiadau â nhw.

Lle bo’r rhain eisoes yn y parth cyhoeddus, dylid darparu dolenni gwe neu fanylion ynglyn â sut y gellir eu cael.

8.1 CYSWLLT Â’R GYMUNED

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth am berthynas y sefydliad â’r gymuned leol. Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn y dosbarth hwn yn cynrychioli ymagwedd y sefydliad at gynnal a meithrin y berthynas honno.

Cofnodion cyfarfodydd y Bartneriaeth Pobl Ifanc Ar bapur Am ddim
Cofnodion cyfarfodydd Fforwm Canol Tref Castell-nedd Ar bapur Am ddim

8.2 CODI ARIAN

Disgrifiad:

Mae gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn y dosbarth hwn yn ymwneud â’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw gan y sefydliad i godi refeniw yn ychwanegol at y refeniw a ddarparwyd gan ei brif gyrff cyllido. Enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yw:

Taflenni Hyrwyddo Hyfforddiant Cymru Ar bapur Am ddim
Prosbectws Hyfforddiant Pathways Ar bapur Am ddim

8.3 CYSYLLTIADAU Â’R LLYWODRAETH A RHEOLYDDION

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn ymwneud â’r wybodaeth y mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y sefydliad i sicrhau ei bod ar gael i’w gyrff cyllido a/neu fonitro. Gall deunydd o’r fath ddarparu gwybodaeth ynglyn â pha mor dda y mae’r sefydliad yn perfformio. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:

  • Adroddiadau / datganiadau i gynghorau cyllido, arolygiaethau, cyrff safonau, cynghorau ymchwil, cyrff proffesiynol, adrannau’r llywodraeth, ac ati.
  • Arolygiadau’r Swyddfa Safonau mewn Addysg (ar gyfer Addysg Bellach), Polisïau Ymarferion Asesu Ansawdd Addysgu ac Asesu Ymchwil (gweler hefyd Addysgu a Dysgu).

Gall fod nifer o’r rhain wedi’u cyhoeddi eisoes, ond efallai y bydd sefydliad yn dymuno darparu dolenni atynt yn yr achosion hyn.

8.4 MARCHNATA A RECRIWTIO

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys cyhoeddiadau sy’n ymwneud â recriwtio myfyrwyr (yn y DU ac yn Rhyngwladol), gan gynnwys prosbectws y coleg. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r profiad dysgu.

Strategaeth Marchnata Ar bapur Am ddim
Prosbectysau’r Colegpectuses i Fyfyrwyr Amser Llawn
Myfyrwyr Rhan-amser
Addysg Uwch
Dycwhwelyd i Ddysgu
Cymraeg i Oedolion
Hyfforddiant Pathways.
Website Am ddim
Taflenni Cwrs/Pwnc Ar bapur Am ddim

8.5 CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS

Disgrifiad:

Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chreu yn benodol gan y sefydliad er mwyn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’w gyfleusterau a’i weithgareddau. Bydd y rhan fwyaf o wybodaeth o’r fath wedi’i chreu ar gyfer darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, ond gall fod o gryn ddiddordeb hefyd i’r rheini sy’n dymuno gwybod mwy am yr hyn y gall y sefydliad ei gynnig a gweithgareddau ei fyfyrwyr a’i staff:

Cyhoeddiadau i’r Wasg Ar bapur Am ddim
Cylchlythyrau’r Coleg
Trainingwales
Myfyrwyr
Ar bapur Am ddim
Hyfforddiant Pathway Ar bapur Am ddim