Ehangu Mynediad

Mae ein darpariaeth Ehangu Mynediad yn dod o dan y rhaglen genedlaethol Ymgyrraedd yn Ehangach, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Ei nod yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch.

Rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein prosesau yn gyson er mwyn helpu i wneud ceisiadau i ni mor hygyrch â phosibl.

Mae ein Uwch Swyddog Profiad Myfyrwyr Addysg Uwch ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth.

Gallwch gysylltu ar tim trwy headmin@nptcgroup.ac.uk

Darganfyddwch sut mae Louis Edwards, myfyriwr Cerddoriaeth Lefel A wedi elwa o’n rhaglen Ehangu Mynediad.