Beth yw’r ots am yr Afal Mawr pan mae gennych Afal Gwyrdd?

Grŵp Colegau NPTC yw’r Coleg cyntaf yng Nghymru i gael Gwobr Amgylchedd Afal Gwyrdd pwysig ar ôl cael ei ganmol am ei waith yn creu amgylchedd cynaliadwy ar gyfer yr holl staff a myfyrwyr.

Ymunodd â nifer o gwmnïau rhyngwladol yn y Senedd, Palas San Steffan i dderbyn y wobr ar ôl cystadlu yn erbyn mwy nag 800 o enwebiadau eraill yn y Gwobrau Afal Gwyrdd ar gyfer Arfer Amgylcheddol Gorau â’i brosiect, ‘Cynaliadwyedd – Gyda’n Gilydd mae’r Ffordd Ymlaen’.

Cafodd y seremoni ei chynnal gan Elizabeth Kendall, AS dros Orllewin Caerlŷr; a chyflwynwyd y tlysau gan y Pencampwyr Gwobr Byd Gwyrdd Ian a Yung Burden o PGT-Reclaimed, Fiet-nam, i gydnabod eu llwyddiant yn y Gwobrau Byd Gwyrdd.

Sefydlwyd Gwobrau Amgylchedd Afal Gwyrdd ym 1994 fel ymgyrch flynyddol i gydnabod, gwobrwyo a hyrwyddo arfer amgylcheddol gorau ledled y byd.

Mae enillwyr blaenorol y Gwobrau Afal Gwyrdd wedi mynd ymlaen i ennill gwobrau Ewropeaidd, ac mae llawer wedi ymgymryd â statws Llysgennad Byd Gwyrdd Rhyngwladol drwy helpu eraill ledled y byd i helpu’r amgylchedd.

Dywedodd panel beirniadu y Gwobrau Afal Gwyrdd: “Gwnaeth Grŵp Colegau NPTC benderfyniad unigryw yn 2008 i fod yn sefydliad cynaliadwyedd, gan hyrwyddo’r symudiad ar draws y gymuned. Maent wedi cael llwyddiannau di-rif dros y degawd diwethaf yn gwthio gostyngiadau yn y llefydd cywir, ac maent yn parhau i fwrw ymlaen ar bob cyfle.”

 Roedd Geraint Jones, Pennaeth Cynorthwyol y Cwricwlwm, wrth ei fodd yn derbyn y wobr, a dywedodd:

”Mae’n gyflawniad gwych i fod yr unig Goleg yng Nghymru i ennill gwobr o’r fath fri.  Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymdrechu’n barhaus i wella cynaliadwyedd; gan gyflwyno ynni solar i gampysau, annog diwylliant ar gyfer ailgylchu yn ogystal â gweithio di-bapur.”