Llwyddiant pêl-rwyd yn arwain y ffordd yng Nghystadleuaeth Colegau Cymru

Mae tîm pêl-rwyd Grŵp Colegau NPTC yn mynd i Bencampwriaethau Prydain ar ôl curo’r gystadleuaeth gan golegau ledled Cymru.

Roedd yn ddiwrnod prysur yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf i’r holl fyfyrwyr chwaraeon a oedd yn cynrychioli Grŵp Colegau NPTC wrth iddynt gystadlu yng Nghystadleuaeth Ranbarthol Colegau Cymru yn Athrofa Caerdydd Chwaraeon Cymru, ac ar draws De Cymru. Roedd y twrnamaint yn cynnwys chwe champ wahanol ar naw maes/cwrt gyda 41 o dimau yn cystadlu!

Yn gyntaf roedd tîm pêl-rwyd arbennig y Coleg yn chwarae, gan hwylio drwy pob rownd o’r gystadleuaeth, ac ennill lle yn y rownd gynderfynol yn erbyn Coleg Sir Gâr. Yn y gêm gyffrous, enillodd y tîm a mynd i’r rownd derfynol yn erbyn Coleg Cambria lle yr oeddent yn fuddugol! Golyga’r fuddugoliaeth honno bellach eu bod yn gymwys i gystadlu yng Nghystadleuaeth Colegau Prydain a gynhelir yn Nottingham fis Ebrill nesaf.

Cymerodd myfyrwyr sylfaen ran yn y twrnamaint pêl-droed ‘Ability Counts’ yn Nhŷ Chwaraeon Caerdydd.  Gwnaethant gystadlu mewn nifer o gemau yn ystod y dydd a gorffen yn ail yn y  bencampwriaeth.

Roedd timau pêl-droed dynion a menywod o ar draws y Coleg hefyd yn cymryd rhan. Cyrhaeddodd tîm y menywod o Academi Chwaraeon Llandarcy rownd gynderfynol y gystadleuaeth ac roeddent yn anlwcus i golli o un gôl ar ôl rhagori o ran y meddiant yn ystod rhan fwyaf y gêm.

Teithiodd tîm rygbi’r dynion i Lanymddyfri ar gyfer y gystadleuaeth rygbi 7 bob ochr. Chwaraeon nhw’n dda yn rowndiau’r grŵp ond fe gafwyd anhawster yn erbyn tîm cryf o Goleg Gwent a aeth ymlaen i fod yn fuddugol.

Cynhaliodd Academi Chwaraeon Llandarcy dwrnamaint rygbi 7 bob ochr y menywod, gyda thimau yn cystadlu o ar draws Cymru. Cyflwynodd y Coleg dîm ifanc, gyda rhai ohonynt yn chwarae yn eu twrnamaint cyntaf erioed, a gwnaethant yn eithriadol o dda i gyrraedd y rownd gynderfynol!

Cafodd myfyrwyr o Goleg y Drenewydd a Choleg Bannau Brycheiniog lwyddiant arbennig mewn campau racedi. Daeth Clarisse Lamsen, er gwaethaf anaf i’w harddwrn, yn 2il yn y senglau badminton i fenywod, tra roedd Iwan Lavis yn fuddugol yn senglau’r dynion, gan ennill mewn setiau union.

Rhestr o Enillwyr/Cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Prydain

Aaron Pang – Badminton

Clarisse Lamsen – Badminton

Thomas Callard – Traws Gwlad

Connor Graham – Traws Gwlad

Kieran Dooley – Traws Gwlad

Leah Roberts – Traws Gwlad

Kyle Williams – Golff

Cai Arnold – Golff

Ben Hitchin – Golff

Ben Bowley – Golff

Tîm Merched- Pêl-rwyd

Ian Lavis – Sboncen