Ymateb i’r Her

Cafwyd llwyddiant melys i fyfyrwyr a staff Grŵp Colegau NPTC wrth iddynt ennill rhai o’r gwobrau uchaf yng nghynhadledd Cynghrair Myfyrwyr a Hyfforddeion Pobi (ABST) eleni.

Mae’r myfyrwyr lefel 2 a lefel 3 wedi cystadlu yn erbyn myfyrwyr eraill o golegau a darparwyr hyfforddi o bob cwr o’r wlad yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Alton Towers.

Dyma’r enillwyr: Gareth Morgan a enillodd fedal aur yn y Cwpan Blandy; Dion Tompkins a enillodd y Gorau yn Nosbarth Battenberg ar gyfer Cwpan y Sefydlwyr; a Ceri Riby a gafodd ganmoliaeth uchel am rywun a oedd yn arddangos am y tro cyntaf yng Nghwpan Renshaw.

Eleni bu syrpreis arbennig yn y siop wrth i’r pobydd enwog Mary Berry ddod fel gwestai a chyflwynodd y wobr i Gareth.

Dywedodd y darlithydd Zoe Beechey: “Roedd yn ddigwyddiad gwych ac roedd yr holl fyfyrwyr a gystadlodd yn perfformio’n dda a derbyniodd pawb adborth da iawn gan yr holl feirniaid.  Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn nesaf nawr. ”

Capsiwn ar gyfer y llun: Mae Mary Berry yn cyflwyno gwobr i Gareth Morgan.