Traethawd Freya ar Alfred Fawr yn ennill Prif Wobr

Mae’r myfyriwr Safon Uwch Coleg Castell-nedd, Freya Kinsey wedi dangos ei dawn ysgrifennu drwy ennill y brif wobr mewn cystadleuaeth traethodau pwysig wedi’i noddi gan Brifysgol Sheffield.

Mae Adran Hanes y Brifysgol yn trefnu’r gystadleuaeth yn flynyddol i roi ymarfer ‘ymestyn a herio’ i ysgolion a cholegau ar gyfer eu myfyrwyr mwyaf talentog. Mae’n agored i fyfyrwyr blwyddyn 12 neu’r Chweched Isaf o ysgolion a cholegau mewn unrhyw ran o’r DU. Eleni cafwyd y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr, sy’n gwneud y wobr hyd yn oed yn fwy arbennig.

Roedd Freya, sy’n astudio Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg, Ffrangeg, Cemeg a Hanes yn falch o fanteisio ar y cyfle i ysgrifennu traethawd ymchwil wedi’i ymchwilio’n annibynnol ar bwnc hanesyddol sydd y tu allan i’r cwricwlwm a gwnaeth ei hymdrechion argraff ar y beirniaid a roddodd y wobr gyntaf iddi.

Roedd ei doniau a’i hangerdd dros ysgrifennu a hanes eisoes yn amlwg gyda darlithwyr yn y Coleg (rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn ei weld o’r dechrau.

Dywedodd y darlithydd Bernadine Mcquire: Mae gan Freya angerdd academaidd dros hanes erioed, sy’n ei harwain i ddarllen y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

“Fel myfyriwr Saesneg a Ffrangeg, mae Freya wedi mireinio ei gallu i ysgrifennu’n effeithiol ac yn ddadansoddol. Mae’r sgiliau craidd yr oedd eu hangen ar Freya ar gyfer traethawd o’r fath yn gryf iawn: ymchwil effeithiol, gwerthusiad beirniadol o ffynonellau a chyfeiriadaeth academaidd. Creodd ei thraethawd argraff fawr ar y staff ym Mhrifysgol Sheffield wnaeth ei feirniadu. Roeddent wrth eu bodd yn benodol gan ystod y sgiliau a ddangoswyd gan Freya, a’i rheolaeth drostynt. Pwysleisiwyd bod ganddi’r holl rinweddau oedd eu hangen i fod yn hanesydd rhagorol,” ychwanegodd.

Roedd y beirniaid yn llawn edmygedd ac yn dweud ei fod yn werthusiad pleserus wedi’i ysgrifennu’n dda o ‘fawredd’ Alfred Fawr.

“Mae’r gosodiad canolog yn ymrafael â’r cwestiwn yn effeithiol iawn, gan amlygu’r angen i haneswyr ystyried dylanwad enw da Alfred ar ôl iddo farw, wrth werthuso ei deyrnasiad. Mae hyn yn arwain at ymdriniaeth soffistigedig o gof hanesyddol drwy’r cwbl: mae’r traethawd yn dadlau’n argyhoeddiadol fod dyrchafiad Alfred i fod yn ‘Fawr’ yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ynghyd ag ychwanegiadau pellach i’w enw da drwy’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sicr wedi llunio sut rydym yn meddwl am Alfred heddiw. Mae hyn i gyd yn cael ei gefnogi gan ddadansoddiad craff o ddeunydd ffynhonnell gynradd a llenyddiaeth eilaidd, sy’n creu traethawd darbwyllol a soffistigedig yn gyffredinol,” meddent.

Bydd Freya’n cael gwobr o £50 am y traethawd buddugol ac mae eisoes yn bwriadu astudio Ffrangeg a Hanes yn y brifysgol.

Roedd Freya wrth ei bodd o fod wedi ennill a dywedodd: “Mwynheais yn fawr ymchwilio i deyrnasiad Alfred Fawr. Gan fod yn rhaid i ni ddewis pwnc nad ydym yn ei astudio yn y dosbarth, roedd yn ymarfer gwych o ran dysgu annibynnol. Roeddwn wrth fy modd i glywed fy mod wedi ennill, gan nad oeddwn yn meddwl fod gennyf unrhyw siawns o wneud hynny o gwbl.”