Darlithydd Paul Evans yn helpu i ‘Dorri Recordiau’

Ar 7fed Gorffennaf, Paul Evans, Darlithydd mewn Astudiaethau Sylfaen yng Ngholeg Bannau Brycheiniog oedd un o’r nifer o redwyr i gymryd rhan ym Marathon Cymru 2019 yn Ninbych-y-pysgod.  Roedd Paul fodd bynnag yn un o 122 o redwyr oedd yn rhan o dîm Ymchwil Canser Cymru oedd yn gobeithio torri’r record am y nifer mwyaf o redwyr cysylltiedig i gwblhau marathon.

Llwyddodd y tîm i gwblhau’r cwrs a mynd i mewn i Recordiau’r Byd Guinness, gan orffen y cwrs 26.2 milltir mewn amser o 6 awr 42 munud wedi’u cysylltu â’i gilydd gan raff. Trefnwyd y rhedwyr yn 30 rhes o bedwar rhedwr. Roedd canser wedi effeithio ar lawer o’r cyfranogwyr eu hunain mewn rhyw ffordd.

Dywedodd Paul, ‘Roedd y digwyddiad yn wirioneddol wych gydag awyrgylch arbennig. Dwi mor falch o fod yn rhan o record byd.’

Daeth y syniad gan gefnogwr Ymchwil Canser Cymru Neal Gardner, gweithiwr yn y Post Brenhinol, a dorrodd y record i ddechrau 10 mlynedd yn ôl, pan gwblhaodd ef a 29 o redwyr eraill farathon Llundain. Ymunodd â Dale Evans, Rheolwr Digwyddiadau Ymchwil Canser Cymru, a threfnodd y 122 o gyfranogion i godi’r bar i dorri record y byd.

Dywedodd Dale: “Ni ellir gorbwysleisio’r hyn mae’r grŵp hwn wedi’i gyflawni – mae cael cynifer o redwyr o bob oed a gallu yn dod at ei gilydd i redeg 26.2 milltir yn wirioneddol ryfeddol.

“Yn ogystal â thorri teitl Record Byd Guinness, mae ymdrechion ein rhedwyr hefyd yn helpu i ariannu ymchwil pwysig i ddulliau atal, diagnosis cynnar a gwell triniaeth a fydd o fudd i gleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.”

Os hoffech chi gyfrannu, gwnewch hynny drwy’r safle Just Giving: https://www.justgiving.com/campaign/walesmarathongwr