Myfyriwr Coleg Castell-nedd yn dawnsio dros Gymru

Ar ôl dewis astudio cwrs Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Castell-nedd ym mis Medi 2017, penderfynodd Issabelle Purser newid i’r cwrs Lefel 3 dawns lefel 3 yn 2018, lle yr oedd cyfle iddi ehangu ei gwybodaeth a’i hoffter am ddawns mewn adran sydd wedi creu enw rhagorol am addysg ym maes dawns dros y ddau ddegawd diwethaf.  Mae bellach yn ymddangos bod ei phenderfyniad i astudio dawns wedi newid cyfeiriad ei dyfodol addysgol, gan ei bod bellach yn cael nifer o gynigion i ehangu ei hyfforddiant mewn dawns ymhellach gan brifysgolion ledled y DU.

Yn y coleg, mae Issabelle wedi bod yn hyfforddi mewn amrywiaeth o arddulliau dawns am y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gynnwys ballet, tap, dawns gyfoes a jazz.  Mae hi hefyd wedi meistroli sgiliau o ran coreograffi a thechnegau archwilio symudiadau, gan brofi ei bod yn fyfyriwr dawns galluog mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau dawns hanfodol. Mae Issabelle hefyd wedi ymrwymo i’w hastudiaethau Bagloriaeth Cymru Uwch ychwanegol yn y Coleg ac wedi cyfrannu’n frwd at weithgareddau allgyrsiol y coleg ym maes dawns.

Dywedodd Issabelle;

“Yn ystod fy nghyfnod yn y Coleg, rwyf wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithdai proffesiynol gyda nifer o weithwyr dawns proffesiynol, ond fy mhrofiadau gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a oedd wedi fy hysbrydolodd i eisiau bod yn ddawnsiwr a leolir yng Nghymru a dyma pam fy mod wedi dewis astudio dawns ar lefel gradd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.  Dwi’n gobeithio un diwrnod defnyddio fy sgiliau dawnsio i weithio gyda dawnswyr eraill o bob cwr o Gymru ar y cyd. ”

Mae penderfynu parhau â’i haddysg ddawns yng Nghymru yn rhywbeth y mae Issabelle yn teimlo’n gryf amdano ac mae llawer o ddawnswyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn rhannu’i chenhadaeth i wneud y gorau o gyfleoedd dawns yng Nghymru.  Gyda sawl llwyfan dawns a byd dawns bywiog ledled Cymru, bydd Issabelle yn awr yn mynd i mewn i fyd hollol newydd o gyfleoedd dawns ar ôl cwblhau ei chwrs yng Ngholeg Castell-nedd y tymor hwn.

Dywedodd Craig Coombs, sef yr Arweinydd Pwnc a Chydlynydd Cwrs ar gyfer Dawns yng Ngholeg Castell-nedd;

“Mae Issabelle wedi bod yn fyfyriwr ardderchog.  Mae hi’n hynod o ddibynadwy ac yn gweithio gyda llawer o dalent a brwdfrydedd yn y stiwdio ddawns.  Mae hi wedi bod yn awyddus i gynrychioli adran ddawns y coleg ar sawl achlysur, gan gynnwys ei pherfformiadau gyda chwmni dawns LIFT,  cwmni dawns One Vision ac am dair blynedd yn olynol, mae hi wedi dawnsio yn y cynyrchiadau dawns Nadolig hynod o boblogaidd.  Mae gan Issabelle y potensial i fynd i’r brifysgol a chyflawni pethau gwych yn ei gyrfa mewn dawns.  Dwi’n teimlo’n gyffrous am ei dyfodol. ”

Perfformiodd Issabelle yn un o’r prif rolau yn yr addasiad dawns y llynedd o ‘ Red Riding Hood ‘ a syfrdanodd y gynulleidfa gyda’i pherfformiad gwreiddiol o’r cymeriad ‘Miss Hood’.

Dywedodd Issabelle mai;

“Astudio Dawns yn y coleg oedd y penderfyniad gorau a wnes i erioed.  Fe wnes i fwynhau fy amser yn perfformio gyda’r cwmnïau dawns a dwi wedi dysgu cymaint am fy arferion fel dawnsiwr dan hyfforddiant.  Rydw i nawr yn teimlo’n barod i ddechrau ar y cam nesaf yn fy addysg yn gan obeithio cymryd un cam yn nes at yrfa yn y diwydiant dawns proffesiynol. ”

Aeth Craig Coombs ymlaen i ddweud ei fod yn;

“…falch iawn o lwyddiant y myfyrwyr dawns yn y coleg a dwi bob amser yn hapus i wylio fy myfyrwyr yn tyfu yn eu galluoedd yn ystod eu hamser gyda ni.  Mae issabelle wedi cyflawni i’r eithaf yn ystod ei hamser ar y cwrs dawns yn y coleg ac mae’r ffaith ei bod yn awr yn mynd i fod yn ddawnsiwr a leolir yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn glod i’w phenderfyniad i astudio mewn prifysgol yng Nghymru.  Mae Gwyn Emberton (Cyfarwyddwr Rhaglen PCYDDS) a’i dîm eisoes wedi gweithio gydag Issabelle fel rhan o’n rhaglen allgyrsiol yn y coleg a dwi’n gwybod bod Issabelle wedi gwneud y dewis cywir i barhau â’i hastudiaethau dan ei gyfarwyddyd y flwyddyn nesaf. ”

Yn olaf, mae Isabelle yn dweud bod;

“Dwi wedi gwneud cymaint o ffrindiau yn y coleg ac wedi cael cymaint o gyfleoedd i fuddsoddi yn fy hunan fel dawnsiwr. Nawr, ar ôl dewis astudio ar lefel uwch, dwi wrth fy modd i gychwyn ar yr antur newydd a dysgu hyd yn oed yn fwy am y pwnc fy mod i’n hoff iawn ohono. ”

Mae darlithwyr dawns Coleg Castell-nedd yn edrych ymlaen at yr hyn sy’n digwydd nesaf ar gyfer Issabelle wrth iddynt baratoi ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dalent ifanc ym maes dawns a fydd yn dechrau’r cwrs dawns ym mis Medi, ac a fydd, gobeithio, yn dilyn yn olion traed Issa