Myfyriwr Coleg Castell-nedd wedi dawnsio nerth ei thraed i gyrraedd Llundain

Dechreuodd Isabelle Coombs ei hastudiaethau yng Ngrŵp Colegau NPTC ar y cwrs BTEC lefel 3 a chymhwyster Safon U mewn Dawns gyda Bagloriaeth Cymru Uwch ym mis Medi 2018. Ers hynny mae ei galluoedd dawnsio wedi datblygu cymaint fel ei bod bellach wedi cael cynnig lle i hyfforddi yn Llundain!

Llwyddodd Isabelle i gael y gorau ar filoedd o ddawnswyr ifanc eraill i ennill lle yn un o brif sefydliadau addysg uwch y wlad ar gyfer hyfforddiant theatr gerddorol a dawns, ac ym mis Medi bydd hi’n dechrau ei hyfforddiant proffesiynol ar y cwrs gradd yn London Studio Centre.

Dywedodd Isabelle:

“Yn ystod fy nghyfnod yng Ngholeg Castell-nedd dwi wedi datblygu fy sgiliau technegol mewn llawer o ddisgyblaethau dawns gan gynnwys jazz, bale clasurol, dawns gyfoes a thap.  Mae’r hyfforddiant hwn, ynghyd a’r agweddau coreograffig, proffesiynol a hanesyddol ar fy rhaglen astudio dawns wedi rhoi dealltwriaeth drylwyr i mi o ddawns o fewn y sector dawns broffesiynol heddiw. ”

Aeth Isabelle, sy’n dod o deulu o ddawnswyr ymlaen i ddweud;

“Dwi wedi mwynhau’n fawr y profiadau y mae’r adran ddawns wedi cynnig i mi ers i mi ddechrau yn y coleg.  Dwi wedi cymryd rhan mewn gweithdai dawns a arweiniwyd gan weithwyr proffesiynol a mwynheais yn arbennig fy nghyfleoedd hyfforddi unigryw gyda Chwmni Dawns Richard Alston a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.  Dwi hefyd wedi cael fy ysbrydoli i’r fath raddau gan fy narlithwyr dawns ymarferol Craig Coombs ac Elise Addiscott am fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ymhellach er mwyn datblygu i fod y fath ddawnsiwr ydw i heddiw.  Mae’r darlithwyr dawns yng Ngholeg Castell-nedd wedi newid fy mywyd am byth a dwi’n hynod o ddiolchgar am hynny “.

Mae dawnsio wedi bod yn rhan o fywyd Isabelle am gyhyd ag y gall gofio am ei bod yn dod o deulu o athrawon a pherfformwyr dawns llwyddiannus.  Mae mam Isabelle, Cathy Coombs newydd ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu Solar Dance sy’n darparu dosbarthiadau dawns ar draws Port Talbot, Pontardawe ac Ystradgynlais.  Mae Cathy wedi cydweithio â Craig Coombs ers blynyddoedd, sef arweinydd pwnc a chydlynydd cyrsiau dawns yn y coleg, yn bennaf yn gysylltiedig â gwaith gyda sefydliad dawns gymunedol TAN Dance ar brosiectau megis Cecilia Macfarlane’s Intergenerational Project, Oyster Bay a Chwmni Dawns Dynion.

Dywedodd Craig, sy’n rhannu’r un cyfenw er nad yw’n berthynas i Isabelle a’i theulu;

“Mae Isabelle wedi bod yn fyfyriwr dawns ffantastig ac wedi profi ei hun nid yn unig fel perfformiwr dawns talentog, ond hefyd fel coreograffydd dawnus.  Mae ei hymroddiad i’w gwaith yn rhagorol ac mae ei hangerdd am ddawns yn amlwg ym mhopeth y mae hi’n ei wneud.  Mae gan Isabelle y potensial i fod yn ymarferydd blaenllaw ym maes dawns a dwi’n hyderus y bydd ei hamser yn London Studio Centre yn meithrin ei sgiliau i’r eithaf. ”

Yn y Coleg mae Isabelle yn hyfforddi ac yn perfformio fel rhan o Gwmni Dawns One Vision sydd yn unigryw i fyfyrwyr dawns BTEC Lefel 3.  Mae hi hefyd yn perfformio gyda Chwmni Dawns LIFT sy’n gwahodd holl fyfyrwyr y coleg i glyweliad ar gyfer llefydd perfformio bob mis Ionawr.  Eleni, roedd Isabelle yn gobeithio cyflwyno ei choreograffi ei hun yn arddangosfa flynyddol Cwmni Dawns LIFT yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin yn Abertawe, ond yn anffodus fe’i canslwyd oherwydd pandemig Covid-19.

Aeth Craig Coombs ymlaen i roi sylwadau pellach;

“Er i’r Cwmni Dawns LIFT blynyddol gael ei ganslo am y tro cyntaf yn ei hanes pymtheng mlynedd, mae’r dyfodol yn ddisglair i fyfyrwyr fel Isabelle a oedd yn gobeithio perfformio i’r cwmni am y tro olaf.  Yn y blynyddoedd sydd i ddod bydd y coleg yn croesawu Cwmni Graddedigion LIFT, lle bydd myfyrwyr fel Isabelle yn cael eu gwahodd yn ôl i’r Coleg i berfformio gyda dawnswyr y cwmni unwaith eto.  Bydd hyfforddiant Isabelle yn London Studio Centre yn sicr o sicrhau lle iddi yng Nghwmni Graddedigion LIFT y dyfodol. ”

Cafodd doniau Isabelle eu cydnabod gan y coleg yn gynharach yn y flwyddyn academaidd hon pan enillodd fwrsariaeth ddiwylliannol am ragoriaeth yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, gan adlewyrchu safon ryfeddol y gwaith y mae wedi’i gynhyrchu yn ystod ei hamser yn y coleg.

Dywedodd Isabelle;

“Roedd ennill y wobr yn anrhydedd annisgwyl ac roeddwn i wrth fy modd i’w derbyn.  Mae’r fwrsariaeth wedi fy helpu i gyflawni fy nodau o ran y brifysgol gan ei bod wedi cyfrannu at ariannu fy nghlyweliadau ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau galwedigaethol preifat eleni.  Derbyniais i fy nghynnig i hyfforddi yn London Studio Centre erbyn hyn a dwi’n edrych ymlaen at ddechrau fy astudiaethau a hybu fy sgiliau ymhellach mewn lle mor sefydledig a mawr ei barch. ”

Dywedodd Craig, sydd wedi bod yn diwtor personol Isabelle yn y coleg am y ddwy flynedd ddiwethaf;

“Mae Isabelle bob amser wedi bod y math o fyfyriwr sydd wedi cipio pob cyfle a ddaeth i’r amlwg.  Mae hi wedi cael ei hysbrydoli gan ein hymweliad addysgol â Llundain y llynedd lle’r oedd yn dal ar y cyfle i fynychu’r dosbarthiadau yn Pineapple Dance Studios a Rambert Dance Company.  Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan waith sawl coreograffydd ac ar ôl ei gweld hi’n perfformio yng nghynhyrchiad y coleg eleni o ‘Hugan Fach Goch’ dwi’n hyderus fod gan Isabelle yrfa ddawns wych o’i blaen. ”

Mae pob un o’r darlithwyr dawns yn dymuno pob llwyddiant i Isabelle yn ei mentrau newydd ac yn edrych ymlaen at weld ei gyrfa yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf ac maent hefyd yn paratoi ar gyfer y dawnswyr ifanc brwdfrydig newydd a dderbynnir ym mis Medi eleni, a fydd yn cynnwys chwaer ieuengaf Isabelle, Amelia Coombs ac maent hefyd yn croesawu ei brawd Callum Coombs i’r tîm addysgu.