Myfyriwr Coleg Safon Uwch yn Canu, Actio a Dawnsio ar ei Ffordd i Lwyddiant Yn Y Brifysgol

Dechreuodd Elizabeth Herbert (y’i gelwir yn Libby) ei haddysg yng Ngrŵp Colegau NPTC ym mis Medi 2018, ac ers hynny mae wedi sicrhau rhagoriaeth ym mhob rhan o’i haddysg.   Fel myfyriwr yn rhaglen Rhagoriaeth Dawnus a Thalentog (GATE) y Coleg, mae Libby wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o astudiaethau ychwanegol yn y Coleg gan gynnwys Diploma Pre-U Caergrawnt mewn Safbwyntiau Byd-eang ac Ymchwil Annibynnol, ynghyd â’i chyrsiau Safon Uwch mewn Cerddoriaeth, Drama a Dawns.  Mae gwaith caled Libby wedi talu ar ei ganfed gan ei bod hi nawr yn paratoi ar gyfer ei dewis cyntaf o gwrs gradd mewn Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain, a fydd yn dechrau ym mis Medi.

Gyda hithau eisoes yn canolbwyntio ar weithio tuag at addysg ôl-radd, mae Libby wedi profi ei bod yn fyfyriwr talentog ‘bygythiad triphlyg’ yn yr Ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio ac mae wedi dangos ei bod yn rhywun sy’n ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth ym mhob peth y mae’n ei gyflawni.

Heddiw, mae Libby yn myfyrio ar ei thaith academaidd i’r celfyddydau perfformio a’r agweddau yr oedd yn eu hwynebu pan benderfynodd ddilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol ar ôl ennill portffolio A* mewn TGAU; “Pan benderfynais astudio Safon Uwch mewn pynciau celfyddydau creadigol, cafodd fy mhenderfyniad ei dderbyn â syndod gan rai. A minnau’n fyfyriwr â chanlyniadau arholiadau uchel, roedd disgwyl i mi sefyll Safon Uwch sy’n cael eu hystyried gan lawer fel rhai ‘mwy academaidd’ yn draddodiadol; er enghraifft, y gwyddorau, mathemateg neu Saesneg. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio, drwy fy newis i astudio pynciau rwy’n angerddol drostynt, fy mod wedi cyfrannu at ddileu’r stigma sy’n gysylltiedig â phynciau fel dawns a drama, fel rhai sy’n ‘gyrsiau hawdd’.  Cefais fy herio’n academaidd ac yn greadigol drwy gydol fy astudiaethau yng Ngholeg Castell-nedd, a chredaf y dylem fel cymdeithas roi mwy o bwyslais ar y cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r pynciau hyn, yn hytrach na bod yn ‘berfformiwr’ yn unig.”

Mae angerdd Libby dros ei dewis bynciau Safon Uwch wedi ei galluogi i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael yn y Coleg ac mae wedi mwynhau’r cyfuniad o ddulliau ymarferol ac ysgrifenedig o ddysgu.  Mae’r arholiad Dawns Safon Uwch yn cynnwys 50% o waith perfformio ymarferol wedi’i ddilyn gan bapur arholiad ysgrifenedig, sydd hefyd yn werth 50%, sy’n pwysleisio natur academaidd y pwnc hwn a phynciau eraill o’r fath.

Soniodd Libby am ei phrofiadau o ddawns yn y Coleg;

“Roeddwn wrth fy modd yn archwilio amrywiaeth o ymarferwyr dawns, drwy wybodaeth ddamcaniaethol a symudiadau corfforol.  Rhai o’m ffefrynnau personol oedd Jasmin Vardimon, Matthew Bourne a Christopher Bruce ac fe wnes i fwynhau llunio coreograffi fy ngwaith dawns grŵp fy hun yn arbennig, yn seiliedig ar gerdd gan y bardd Americanaidd, Amy Lowell.  Trefnodd fy narlithydd lawer o weithdai proffesiynol hefyd, a oedd yn caniatáu i mi ddysgu am y diwydiant dawns proffesiynol, gan gwmnïau fel National Dance Company Wales a chwmni dawns Richard Alston, ond uchafbwynt fy nhaith Dawns Safon Uwch oedd ennill Gwobr Dewis y Gynulleidfa am y Coreograffi Gorau – dyna anrhydedd!”

Dywedodd yr Arweinydd Pwnc a Chydlynydd y Cwrs Dawns, Craig Coombs;

“Mae Libby yn fyfyrwraig dalentog a bywiog, ar lwyfan ac ar dudalen.  Mae hi’n ymroddedig i’w datblygiad ym mhob maes o’i gwaith ac mae’n wych gweld person ifanc mor frwdfrydig am ei haddysg.  Cyfrannodd Libby yn frwd at ei hastudiaethau yn y coleg ac o ganlyniad mae hefyd wedi gallu rhagori mewn gweithgareddau allgyrsiol.  Mae hyn yn cynnwys rôl flaenllaw yn y cynhyrchiad dawns Nadolig o ‘Red Riding Hood’ a chyfle i berfformio fel dawnswraig gyda chwmni dawns LIFT.  Rwy’n hyderus bod gan Libby ddyfodol disglair a gwych o’i blaen.”

Wrth gwrs, mae angerdd Libby dros berfformio yn ymestyn i Gerddoriaeth a Drama yn y Coleg, sy’n ffurfio ei chyfuniad o ddewis gyrsiau.  Mae Libby yn arbennig o angerddol dros ei hastudiaethau Drama, a addysgir gan yr Arweinydd Pwnc Drama Zoe Arrieta, sydd wedi adeiladu hanes canlyniadau ardderchog ar gyfer y cwrs dros y 15 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Libby;

“Mae fy angerdd dros ddrama yn ymwneud â dyfeisio, ysgrifennu a chreu theatr. Mwynheais yn fawr gyfuno technegau theatr corfforol, gair am air a naturiolaidd, gydag amrywiaeth o allfeydd aml-gyfrwng, i greu fy mherfformiad olaf yn yr ail flwyddyn.  Archwiliais nifer o ddramâu a thestunau hefyd, gan gynnwys theatr Roegaidd hynafol, clasuron modern a dramâu cyfoes. Trefnwyd nifer o sioeau a gweithdai proffesiynol gan fy narlithydd hefyd; roedd y rhain yn hanfodol wrth baratoi ar gyfer arholiadau.”

Aeth Libby ymlaen i sôn ymhellach am ei hastudiaethau Cerddoriaeth Safon Uwch sy’n cael ei arwain gan yr Arweinydd Pwnc ar gyfer Cerddoriaeth, Caroline Davies, sy’n cyfrannu at gyfoeth o weithgareddau allgyrsiol y coleg ar gyfer myfyrwyr cerddoriaeth. Dywedodd Libby; “Roedd fy Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn ymdrin â llu o genres, yn amrywio o jazz, theatr gerddorol, argraffiadaeth ac ysgrifennu symffonig. Mwynheais fy ngwersi canu un-i-un wythnosol yn arbennig, gyda thiwtor canu proffesiynol. Fel myfyriwr yn Academi Cerddoriaeth Grŵp Colegau NPTC, roeddwn yn aelod o grŵp lleisiol A cappella, a gafodd le yn yr Ŵyl Music for Youth yn Birmingham.”

Fel myfyriwr GATE, roedd astudiaethau ychwanegol Libby yn rhoi cipolwg pellach iddi ar fyd   academaidd y brifysgol, yn ogystal â chyflwyno’r sgiliau angenrheidiol i weithio ar lefel prifysgol. Dywedodd Libby; “Roeddwn i’n gallu ymchwilio i ddewis o faterion cyfoes gan gynnwys tlodi mislif a ffasiwn cyflym. Roedd fy adroddiad ymchwil terfynol yn seiliedig ar y cwestiwn; ‘I Ba Raddau mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn Galluogi ein Plant i Ddod yn Gyflawnwyr Academaidd?’, gan gyfuno fy astudiaethau, fy niddordebau a meddwl yn feirniadol.”

Defnyddiwyd amser Libby yng Ngholeg Castell-nedd hyd eithaf ei gallu ac mae’n esiampl wych i holl fyfyrwyr y coleg.  Mae hi’n rhywun sy’n ymrwymo i’r materion y mae’n angerddol drostynt ac yn gweithio’n galed i’w cyflawni, gan ymroi’n frwdfrydig i’w holl ymdrechion.  Nododd Libby i orffen; “Yn y dyfodol, byddwn wrth fy modd yn dilyn gyrfa yn y sector celfyddydau creadigol, yn enwedig yn y diwydiant theatr. Dwi’n ansicr ar hyn o bryd am rôl benodol, ond gallaf weld fy hun fel cyfarwyddwr, athro, newyddiadurwr, therapydd drama, hanesydd a chynifer o bethau eraill! Ni allaf ddiolch digon i Goleg Castell-nedd a’m darlithwyr gwych, am y cyfleoedd a’r hyfforddiant y maen nhw wedi’u rhoi i mi dros y ddwy flynedd diwethaf!”

Mae darlithwyr Libby yn awr yn paratoi ar gyfer y myfyrwyr newydd ym mis Medi.  Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich addysg yn yr Ysgol Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio, beth am edrych ar y Diwrnodau Agored Rhithwir a’r Sesiynau Rhagflas Rhithwir – ar gael ar wefan swyddogol y coleg.