Mis Hanes Pobl Dduon

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi bod yn falch o ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon trwy gydol mis Hydref.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddathliad cenedlaethol o hanesion, diwylliannau a chymunedau duon. Mae’n rhoi cyfle i ni i gyd fyfyrio ar gydraddoldeb hiliol ac ystyried y rhan rydyn ni i gyd yn ei chwarae wrth wneud ein cymuned yn amgylchedd teg, croesawgar a chefnogol i bobl o bob ethnigrwydd.

Cynigiodd y Coleg gweithdai ymwybyddiaeth gwrth-hiliaeth ‘Peidiwch â Chasáu, Addysgwch’ am ddim i’r holl staff a myfyrwyr. Cyflwynwyd y gweithdai ymwybyddiaeth effeithiol, adfywiol a rhyngweithiol hyn ar-lein gan EYST (Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chefnogaeth Ieuenctid Cymru), gan roi gwybodaeth a dealltwriaeth i’r mynychwyr am faterion hil yng Nghymru gyfoes.

Mae hyn yn ychwanegol at diwtoriaid y Coleg yn cyflwyno tiwtorialau trwy gydol y mis, gyda llawer iawn o adnoddau ar gael ar fewnrwyd y coleg a’n Gwasanaethau Llyfrgell yn cynhyrchu canllaw darllen ar y pwnc hwn, gan gynnwys rhestr ddarllen gwrth-hiliaeth.

Fel rhan o ymrwymiad parhaus Grŵp Colegau NPTC i gydraddoldeb hiliol, rydym hefyd wedi ymuno â’r Siarter Hil yn y Gwaith; siarter genedlaethol sy’n cefnogi cyflogwyr i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn y gweithle. Mae’n fenter a ddyluniwyd i wella canlyniadau ar gyfer gweithwyr du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn y DU.

Mae’r siarter yn adeiladu ar waith Adolygiad McGregor-Smith yn 2017, ‘Hil yn y Gweithle’, galwad i gyflogwyr y DU weithredu, a ganfu fod pobl o gefndiroedd BAME yn dal i fod yn dangyflogedig, ac yn cael eu tanddyrchafu a’u tangynrychioli ar lefelau uwch. Hyd yn hyn, mae mwy na 200 o sefydliadau cyhoeddus, preifat ac elusennol wedi ymuno â’r siarter.

Dywedodd Catherine Elms,  Uwch Swyddog Ymgysylltiad ac Amrywiaeth y Coleg:

“Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn dathlu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein myfyrwyr a’n staff, ac mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn egwyddorion allweddol sy’n sail i bopeth a wnawn. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhoi cyfle i ni i gyd fyfyrio ar gydraddoldeb hiliol, addysgu ein hunain ar y materion pwysig hyn, ac ystyried y rhan rydyn ni i gyd yn ei chwarae wrth wneud ein cymunedau’n deg, yn groesawgar ac yn gefnogol i bobl o bob ethnigrwydd. Nid yw’n ddigon i gasáu hiliaeth ac anghyfiawnder – rhaid i ni weithio tuag at ei ddileu.”