Craig Williams AS yn Ymweld â Theatr Hafren

Croesawodd Coleg y Drenewydd AS Ceidwadol lleol Sir Drefaldwyn, Craig Williams i Theatr Hafren yn gynharach y mis hwn i drafod materion a phryderon cyfredol yn y sector theatr o ganlyniad i’r pandemig.

Mae’r Theatr yn ased gwerthfawr i’r gymuned leol ac yn wir i’r Coleg, gan ddarparu cyfleuster a lleoliad celf a drama.

Gwnaeth Rheolwr y Coleg, Steve Cass a Rheolwr y Theatr, Sara Clutton gwrdd â’r AS, gyda Sara’n arwain y trafodaethau ar y materion sy’n wynebu’r theatr a disgrifio eu ffyrdd creadigol cyfredol o weithio yn ystod y cyfnod hwn.

Soniodd Sara am sut mae’r diwydiant creadigol yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned leolac amlinellodd yr effaith ariannol gyfredol y mae’r cyfyngiadau wedi’i chael ar y Theatr.  Gall Theatr Hafren honni ei bod un o’r rhai sy’n derbyn y swm lleiaf o gymhorthdal yng Nghymru ac felly mae’r argyfwng COVID-19 wedi ei tharo’n galed. Soniodd Sara hefyd am yr ôl-effeithiau ar ddiddanwyr, cwsmeriaid a staff.

Mae Theatr Hafren hefyd wedi dod o hyd i ffyrdd o addasu ac roedd Sara yn falch o adrodd ar y nifer o ffyrdd y mae wedi parhau i estyn allan i’r gymuned. Mae gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned wedi cael eu symud ar-lein, gan greu is-frand i Hafren sef @Home – gweithdai celf, canu, rhythm a dawns. Mae’r gweithgareddau ar-lein wedi denu cynulleidfaoedd newydd, gyda chyfranogwyr ar-lein mor bell i ffwrdd â Chanada a’r Dwyrain Pell. Mae Theatr Hafren hefyd wedi creu cylchlythyr er mwyn sicrhau bod y gymuned yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, a’i bod yn unedig wrth helpu i frwydro yn erbyn ynysu cymdeithasol.

Mae Theatr Hafren hefyd wedi darparu darpariaethau cymunedol pwysig a hanfodol ac wedi cynnig ei gyfleusterau i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer uned brofi symudol a gwasanaethau gwaed.

Dywedodd Craig Williams AS: “Mae’n hyfryd clywed sut mae canolfan celf a drama’r Drenewydd yn delio â COVID-19. Mae’r celfyddydau, drama a cherddoriaeth i gyd yn rhannau hanfodol o’r strwythur economaidd-gymdeithasol ac maen nhw’n mynd trwy gyfnod arbennig o anodd ar hyn o bryd.”

Aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi siarad mewn dadl ddiweddar yn Nhŷ’r Cyffredin, gan godi cefnogaeth i Ganolfan Gerdd Canolbarth Cymru a Theatr Hafren, a galw ar i Lywodraethau’r DU a Chymru weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r asedau cymunedol pwysig hyn. Cadarnhaodd y bydd hefyd yn parhau i bwyso am gefnogaeth i’r busnesau hyn.

Gorffennodd yr AS trwy ddweud: “Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n cefnogi ein diwydiannau creadigol yn ystod y pandemig hwn. Mae Theatr Hafren, Y Drenewydd yn rhan bwysig o’r gymuned leol.”