Heddlu’r Drenewydd yn Mynd yn Fyw Ar-lein ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb

Cymerodd myfyrwyr Porth i Addysg Bellach o Goleg y Drenewydd (Rhan o Grŵp Colegau NPTC) ran mewn trafodaeth ystyrlon ar-lein ar Teams yn ddiweddar gyda Swyddogion o Heddlu’r Drenewydd.

Roedd y trafodaethau yn rhan o’r Ymgyrch Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, digwyddiad cenedlaethol sy’n anelu at gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o droseddau casineb, sy’n annog riportio’r troseddau hyn, ac sy’n hyrwyddo pwysigrwydd cymunedau yn sefyll gyda’i gilydd yn erbyn anoddefgarwch a rhagfarn.

Eleni, cynhaliwyd trafodaethau ar-lein gyda rhai myfyrwyr yn gweithio o bell ac eraill yn cymryd rhan yn y coleg.  Darparodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) Graham Jennings a PCSO Aileen Stewart wybodaeth a chyngor i fyfyrwyr gan wrando ar eu dealltwriaeth o ragfarn, gwahaniaethu a thrafodwyd materion cyfredol.

Roedd trafodaethau yn ystyried dioddefwyr troseddau ac yn cydnabod rôl yr asiantaeth Cymorth i Ddioddefwyr.  Yn ddiweddar, lansiodd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru ei siarter troseddau casineb, sy’n dod â hawliau dioddefwyr troseddau casineb i’r amlwg ac sy’n annog sefydliadau i fabwysiadu’r siarter i ddangos eu hymrwymiad i chwarae rhan wrth fynd i’r afael â throseddau casineb – o ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i ddioddefwyr i godi ymwybyddiaeth.

Cododd y ddau PCSO ymwybyddiaeth hefyd o Gynllun Pegasus, sy’n gynllun i helpu pobl ag anawsterau cyfathrebu i sgwrsio â’r Heddlu.  Dyluniwyd y gwasanaeth i’w gwneud hi’n haws i bobl yn ardal Heddlu Dyfed Powys gyfathrebu â’r heddlu yn gyflym ac yn hawdd ar y rhifau 101 a 999. Mae ffurflenni cais ar gyfer y cynllun ar gael gan y Tîm Plismona Cymdogaeth lleol.

Atgoffodd yr Heddlu bobl hefyd nad oes raid iddynt oddef casineb a rhagfarn ac nad yw’n dderbyniol i bobl fyw mewn ofn dim oherwydd pwy ydyn nhw. Nid oes cartref i gasineb yng Nghymru.

Yna dilynwyd trafodaethau gan sesiwn holi ac ateb. Roedd yn gyfle gwerthfawr i ddysgwyr ddeall am wahanol rwydweithiau cymorth yn y gymuned a hefyd datblygu eu sgiliau a’u hyder wrth ryngweithio ar-lein.

Dywedodd y darlithydd Sarah Welch: “Aeth y cyfarfod ar-lein yn dda ac roedd yn gyfle i fyfyrwyr gynnal rhyngweithio ag asiantaethau allanol sy’n cyd-weithio â’r coleg.”