Diwrnod Rhyngwladol Menywod Gwledig

Mae Coleg y Drenewydd (Rhan o Grŵp Colegau NPTC) yn un o’r ychydig Golegau sy’n cynnig fferm weithredol, ac er yn draddodiadol bu niferoedd uwch o fechgyn yn mynychu’r cyrsiau Amaethyddol, bu tuedd gynyddol mewn merched yn derbyn lleoedd.

Eleni mae merched wedi bod yn y mwyafrif o’r rhai sydd wedi ymrestru ar y Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Amaethyddiaeth, cwrs dwy flynedd lle gall myfyrwyr fynd ymlaen i gyflogaeth uniongyrchol neu barhau i’r Brifysgol.

Mae cyn-fyfyriwr Amaethyddiaeth yng Ngholeg y Drenewydd, Elin Orrells, bellach yn un o’r nifer o ferched sydd wedi torri cwys newydd. Mae hi wedi cymryd ei cham nesaf trwy ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel myfyriwr blwyddyn gyntaf mewn BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes, mewn blwyddyn lle mae’r nifer uchaf erioed o ferched wedi ymuno â’r cwrs amaethyddiaeth.

Dywed Elin, o Drefaldwyn, “Rwy’n ansicr o ba faes yn union o’r diwydiant yr wyf am ei ddilyn yn y dyfodol; fodd bynnag, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at allu dysgu mwy am y gwaith arloesol a wneir yn y Brifysgol ac IBERS.”

Yn 2019 enwyd Elin yn Ddysgwr Ifanc Coleg LANTRA Cymru. Yn frwdfrydig ynglŷn â dechrau’r cwrs, mae Elin yn ychwanegu: “Yn y tymor hwy, fy ngweledigaeth yw cefnogi’r diwydiant i sicrhau bod y boblogaeth ehangach yn cael eu haddysgu’n ddibynadwy am ffynhonnell eu bwyd a rôl y diwydiant ar iechyd pobl.”

Rydym hefyd yn llongyfarch Rhian Williams, cyn-fyfyriwr Lefel 3 a gwblhaodd ei Diploma Estynedig L3 mewn Amaethyddiaeth ym mis Mehefin sydd wedi sicrhau swydd amser llawn yn Teme Valley Tractors yn y Trallwng yn ddiweddar, sy’n cyflenwi ac yn gwerthu ystod eang o beiriannau amaethyddol newydd ac ail-law.

Yn y DU, mae amaethyddiaeth wedi bod yn ddiwydiant lle mae dynion wedi gweithio’n bennaf, gyda’r niferoedd yn cynyddu ar gyfer ffermwyr benywaidd yn barhaus.

Dywedodd Sue Lloyd Jones, Pennaeth Ysgol Lletygarwch, Arlwyo, Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, ‘Mae’n hyfryd gweld cynifer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i’r diwydiant.  Rydym yn parhau i weld cynnydd yn nifer y merched sy’n ymuno â’r cyrsiau Amaethyddiaeth. Maent yn elwa o ddysgu gyda’i gilydd, gan ffurfio cyfeillgarwch cryf a chefnogi ei gilydd.’

Yn ddiweddar, cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol Menywod Gwledig y Cenhedloedd Unedig ar 15 Hydref.  Dyma un o lawer o ffyrdd y mae’r Diwydiant yn estyn allan at fenywod i gynnig cefnogaeth a chydsafiad. Yng Nghymru gall Cyswllt Ffermio gynnig cefnogaeth i fenywod i ddatblygu eu potensial a chyfrannu at y nifer fawr o gyfleoedd sy’n bodoli nid yn unig yn y busnesau ffermio, bwyd a choedwigaeth ond hefyd yn eu cymunedau gwledig ehangach. Mae yna grwpiau cyfryngau cymdeithasol hefyd i rannu profiadau i fenywod mewn amaethyddiaeth fel #agriwomen24

Rydym yn dymuno pob lwc i Elin a Rhian gyda’u hanturiaethau newydd!

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth, edrychwch ar ein rhestr o gyrsiau: Cliciwch Yma Am Mwy