#NAW2021 – Gweithlu Cymru

Mae Gweithlu Cymru (GVCE Ltd) yn sefydliad y sector darparwyr hyfforddiant preifat a sefydlwyd ym 1985 i gefnogi unigolion a busnesau yn Sir Gâr.  Yn 2011, aeth y cwmni’n un o is-gwmnïau Grŵp Colegau NPTC.

Mae’n bartner o fewn consortia Academi Sgiliau Cymru (at ei gilydd mae wyth o bartneriaid). Mae’r consortia’n gweithredu contract sengl gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni Dysgu Seiliedig ar Waith ar draws ystod o sectorau, ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru.

Ar gyfer yr Wythnos Prentisiaeth Genedlaethol rydym yn amlygu storïau rhai o’n prentisiaid llwyddiannus.

Ruby Williams –  Lefel 3 Gofal Plant a Datblygu Dysgu (GPDD)

Mae Ruby Williams newydd gwblhau ei Lefel 3 GPDD (Gofal Plant a Datblygu Dysgu) gyda Gweithlu Cymru ac fe’i cyflogwyd fel Cynorthwy-ydd Gofal Plant ym Meithrinfa Ddydd Forge Fach yn Abertawe.

Gadawodd Ruby yr ysgol yn 16 oed gan iddi deimlo nad oedd hi’n gweithio’n dda yn amgylchedd yr ysgol. Fodd bynnag, ar ôl dod o hyd i swydd yn y sector gofal plant, roedd hi’n gallu ymrestru ar y Brentisiaeth Gofal Plant ac astudio tra yn y gwaith. Cynhyrchodd hi aseiniadau fu’n seiliedig ar ei rôl Cynorthwy-ydd Gofal Plant ac fe gafodd ei hasesu hefyd ar yr elfennau ymarferol a’i chymhwystra yn ei rôl waith.

A hithau wedi gadael yr ysgol heb gymhwyster Mathemateg, llwyddodd hefyd i ennill ei Thystysgrif Cymhwyso Rhif Lefel 2 (Cyfwerth â C mewn Mathemateg) fel rhan o’r Brentisiaeth. Darparwyd deunyddiau adolygu a phapurau sampl er mwyn iddi adolygu, gyda chefnogaeth gan ei haseswr, ac mae meddu ar y cymhwyster hwn wedi agor y drws iddi i fwy o gyfleoedd.

Llwyddodd Ruby i gwblhau’r fframwaith Lefel 3 hyd yn oed er bod cyfnod clo’r Coronafeirws yn mynd ymlaen, a chofnodwyd yr arsylwadau terfynol trwy Reolwr y Feithrinfa, gan ddarparu Tystlythyrau o’r gwaith rhagorol yr oedd Ruby wedi bod yn ei gyflawni yn y feithrinfa, yn ogystal â dogfennu’r dyletswyddau penodol y mae eu hangen i ddangos cymhwystra. Cynhaliodd Ruby a’i haseswr drafodaethau ac adolygiadau rheolaidd o bell hefyd, byddai targedau CAMPUS yn cael eu pennu a chafodd gwaith neu gynnyrch ysgrifenedig ei sganio a’i anfon trwy e-bost. Roedd Ruby bob amser yn ymwybodol y gellir cysylltu â’i haseswr trwy e-bost, neges destun neu dros y ffôn os oedd ganddi unrhyw broblemau gyda’r cwrs a’r targedau a bennwyd.

Mae Ruby bellach yn defnyddio’r cymwysterau hyn i symud ymlaen gyda’i haddysg ac fe’i derbyniwyd ar y cwrs Mynediad i Ofal Iechyd, y mae hi bellach wedi cychwyn arno, gyda’r nod o fynd i’r brifysgol a dilyn gyrfa mewn nyrsio. Mae ganddi gyfweliadau yn ystod y pythefnos nesaf i gael ei derbyn ar y BSC mewn Nyrsio Oedolion.

Mae Ruby yn enghraifft ragorol o sut y mae opsiynau gwahanol ar gyfer dod o hyd i gymwysterau.  Nid yw’r llwybr traddodiadol yn addas i bawb ac mae Ruby wedi dangos bod dysgu trwy lwybr mwy ymarferol, mewn rôl yr oedd hi’n ei mwynhau, wedi ei hannog i ddysgu a gweld ei photensial llawn. Mae hi wedi dysgu’r sgiliau i reoli ei hamser, cynhyrchu asesiadau sydd wedi’u ysgrifennu’n dda, y gallu i ymchwilio a rhoi’r hyn mae hi wedi’i ddysgu ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn, yn ogystal ag ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae’r dull hwn o ddysgu hefyd wedi adeiladu hyder Ruby a’i chred yn ei gallu ei hun. Dyma sgiliau y bydd hi yn awr yn eu defnyddio i ennill ei gradd a symud ei gyrfa ymhellach ymlaen.

Esboniodd Ruby yr effaith y mae’r brentisiaeth wedi’i chael ar ei bywyd:

“Gadewais yr ysgol hanner ffordd trwy flwyddyn 11 ac nid oedd gennyf lawer o’r TGAU y mae eu hangen i ddilyn y trywydd arferol o’r coleg ac wedyn y brifysgol. Dechreuais ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu fy addysg heb fynd i’r coleg yn gyntaf. Ymrestrais ar gyfer Prentisiaeth NVQ Lefel 3 mewn Gofal Plant a dewisais i hyn er mwyn ennill mwy o brofiad a chyflawni cymhwyster mewn rhywbeth yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo.

Mae’r profiad a’r cymhwyster yr wyf wedi’u hennill o wneud y Brentisiaeth bellach wedi fy nghaniatáu i fynd ymhellach i astudio yn y coleg, gwneud cwrs Mynediad i Ofal Iechyd ac ar yr un pryd cael cyfweliadau i astudio Nyrsio i Oedolion yn y brifysgol.

Roedd y cyfle i ddysgu a gweithio ar yr un pryd i’w weld yn her i ddechrau, ond yn roedd y gefnogaeth a’r cymorth gan Gweithlu Cymru a fy aseswr wedi fy helpu i deimlo’n esmwyth yn gyflym. Mae gwneud Prentisiaeth yn eich helpu i gael profiad gwaith ymarferol, cyfle i ennill cymhwyster a chael eich talu am wneud hynny oll! Ar yr un pryd â gwneud fy Mhrentisiaeth, enillais gymhwyster mewn Rhifedd a helpodd fi i gael fy nerbyn i’r coleg i wneud astudiaethau pellach. Nid yn unig yr ydw i wedi cael cefnogaeth gyda fy mhrif gymhwyster, rwyf hefyd wedi cael cefnogaeth i ddatblygu fy nysgu mewn meysydd eraill fel fy sgiliau rhifedd.” ‘’

Anne Marie Lewis ac Owen Johns – Diploma Lefel 3 mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch

Ar hyn o bryd mae Marie ac Owen yn ddysgwyr Prentisiaeth Uwch gyda Gweithlu Cymru, a’r ddau ohonynt wedi’u cyflogi yn Ysgol St Michael yn Llanelli.  Mae Marie wedi’i chyflogi fel Rheolwr Arlwyo ac Owen yw’r Rheolwr Arlwyo/Cogydd Cynorthwyol.

Dechreuodd Owen a Marie gyda GLC trwy ymgymryd â’r Fframwaith Lletygarwch Lefel 2 mewn Cynhyrchu a Choginio Bwyd, y gwnaethant ei gwblhau ac yna symud ymlaen at y Fframwaith Diploma Lefel 3 mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch.

Roedd Marie ac Owen ill dau i fod i gwblhau eu cymwysterau Lefel 3 ym mis Mai 2020 ac roeddent ar darged i gyflawni erbyn dechrau mis Ebrill 2020.  Yn anffodus, cyhoeddwyd y cyfnod clo Coronafeirws cenedlaethol ym mis Mawrth ac aeth y ddau ohonynt ar ffyrlo o fis Ebrill.

Er hynny, er gwaetha’r cyfnod clo, ffyrlo, gorfod gwneud addysg gartref gyda’u plant a gwraig Owen yn cael baban, roedd y ddau ohonynt eisiau cwblhau eu cymwysterau Lefel 3. Pennwyd targedau CAMPUS ar eu cyfer a rhoddodd eu haseswr arweiniad rheolaidd iddynt dros Zoom, e-byst a galwadau ffôn i’w cefnogi i gyflawni. Gwnaethant gwblhau tystlythyrau i gwblhau unedau yn eu NVQ a, rhwng y cyfyngiadau cyfnod clo, mynychu ein canolfan GLC i gwblhau asesiadau a phrofion dan oruchwyliaeth. Cyflawnodd y ddau ohonynt eu cymwysterau NVQ Lefel 3 yn llwyddiannus.

Roedd angen hefyd i Marie gwblhau’r ESW Cyfathrebu Lefel 2 i gyflawni ei fframwaith ac fe gwblhaodd y papurau ymarfer gyda chefnogaeth gan ei haseswr wrth baratoi i sefyll y prawf.  Gwnaeth Marie gwblhau a llwyddo yn y prawf Cyfathrebu Lefel 2.

Mae’r ddau ohonynt yn ddysgwyr rhagorol ac wedi gosod enghraifft dda i weddill y tîm arlwyo yn Ysgol St Michael.  Maent wedi cefnogi aelodau iau y tîm i gyflawni eu cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2. Mae dau aelod arall o’r tîm arlwyo wedi ymrestru i ddechrau ar eu cymwysterau yn ystod y cyfnod clo, gan iddynt weld sut y gellir caffael cymwysterau hyd yn oed yn yr oes heriol sydd ohoni, gyda chefnogaeth gan eu haseswr.

Nirmala Pulendrathasan – Lefel 2 Cynhyrchu a Choginio Bwyd

Yn ddiweddar mae Nirmala wedi cyflawni ei Fframwaith Lefel mewn Lletygarwch ac Arlwyo gyda Gweithlu Cymru. Fel rhan o’r fframwaith hwn, mae hi hefyd wedi cyflawni Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Mae Nirmala wedi cael ei chyflogi fel Cynorthwy-ydd Arlwyo yng Nghartref Gofal Glan Garnant yn Rhydaman ers tua thair blynedd.  Mae hi’n weithiwr allweddol, gan gynorthwyo wrth baratoi a choginio prydau ffres, a’u gweini i breswylyddion y cartref gofal.

Pan ddaeth Nirmala yn gyntaf i Gweithlu Cymru, fe ddwedodd hi wrthym mai eu hail iaith hi oedd Saesneg a’i bod hi’n ddysgwr ESOL, yn mynychu dosbarthiadau Saesneg wythnosol yng Nghanolfan Ddysgu Rhydaman, er mwyn gwella’i Saesneg llafar ac ysgrifenedig.

Dechreuodd Nirmala trwy gwblhau’r Asesiad ESOL WEST a dangosodd ei haseswr iddi sut i ddefnyddio’r adnoddau Saesneg trwy fewngofnodi i WEST gartref, a dyna’r hyn a wnaeth hi ar ôl y gwaith neu ar ei diwrnodau i ffwrdd, i’w helpu gyda’i chymhwyster. Gwnaeth Nirmala ddefnydd da o’r adnoddau ar-lein hyn a, chan yr oedd hi hefyd yn addysgu ei mab gartref, roedd hi’n gallu rhannu nhw gydag aelodau ei teulu i helpu gwella’u sgiliau Saesneg a dysgu gyda’i gilydd. Nid oedd gan Nirmala unrhyw gymwysterau blaenorol ond roedd hi’n awyddus i ddysgu a gwella.

Roedd yr unedau ar gyfer ei chymhwyster wedi’u teilwra i’w swydd a, thrwy gynllunio cyfarfodydd misol rheolaidd, gwnaeth Nirmala gynnydd da yn ei gwaith ysgrifenedig a chwblhawyd arsylwadau’n rheolaidd wrth iddo chyflawni ei gwaith bob dydd.

I gyflawni Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1, rhoddwyd amrywiaeth o bapurau ymarfer i Nirmala ac fe barhaodd i ddefnyddio’r adnoddau WEST. Gan fod Nirmala yn ddysgwr ESOL, rhoddwyd amser ychwanegol iddi i gwblhau Cyfathrebu Lefel 1 ac fe ddewisodd i wneud y prawf ar bapur yn hytrach nag ar-lein.  Gydag ymrwymiad a gwaith caled Nirmala, bu’n bleser i’w hysbysu ei bod wedi llwyddo. Dywedodd Nirmala ei bod hi’n ”hapus dros ben”.

Hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau Covid-19 pan na allai ei haseswr ymweld â’r cartref gofal, roedd hi’n gallu cadw mewn cysylltiad â hi dros e-bost, er mwyn i Nirmala fedru anfon ei gwaith trwodd am adborth a chefnogaeth, ac fe barhaodd i wneud cynnydd gyda’i chymhwyster, gan gwblhau’r fframwaith cyfan.