Emma’n Ennill Efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Parhaodd myfyrwyr o bob rhan o Grŵp Colegau NPTC i greu argraff yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni wrth i enillwyr pellach gael eu cyhoeddi yn yr ail o’r ddwy seremoni wobrwyo ar-lein.  Y tro hwn tro’r fyfyrwraig Paratoi Galwedigaethol a Phorth i Addysg Bellach Emma Bennett oedd hi, wrth iddi ennill medal Efydd yn y gystadleuaeth ‘Paratoi Bwyd’.  Mae’r fuddugoliaeth hon yn dilyn llwyddiant y myfyrwyr Harddwch Lucy Lewis ac Ariyarnna Tidbury a enillodd fedalau Efydd a gyhoeddwyd yn y digwyddiad rhithwir cyntaf ar-lein yn ddiweddar.

Enillodd cyfanswm o 13 myfyriwr ar draws y Coleg fedalau. Cynhaliwyd y cystadlaethau ar-lein neu mewn coleg lletya wrth i bethau newid fesul wythnos wrth i’r cyfnod clo barhau. Daeth y sgiliau a ddangoswyd gan gystadleuwyr ym meysydd Gwyddor Fforensig, Cyfrifiadura a TG, Therapi Harddwch, Trin Gwallt a Chyfrifyddiaeth.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.

Dywedodd y Darlithydd Arlwyo Erika Jones, ‘Rydym yn wirioneddol falch o’n holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y Cystadlaethau Sgiliau Lletygarwch, Conor Lewis gyda ‘Gosod Bwrdd’ ac Emma Bennett ac Emma Louise-Jones yn ‘Paratoi Bwyd’.  Gweithiodd y myfyrwyr yn galed i baratoi ar gyfer yr asesiad.  Cyfaddefodd Emma Bennett nad oedd hi wedi teimlo’n nerfus a dangosodd hyn ar y diwrnod wrth iddi hwylio drwy’r dasg, gan weithio’n effeithlon i baratoi cinio blasus gyda phwdin.’

Dywedodd Fleur Grigg, Tiwtor y Cwrs, ‘Mae’r myfyrwyr wedi cael llai o amser i ymgyfarwyddo â gweithdrefnau eleni. Roeddem yn falch iawn o glywed bod Emma Bennett wedi derbyn medal Efydd. Mae gan Emma agwedd gadarnhaol wych a dangosodd y gall weithio’n dda o dan bwysau cystadleuaeth.’