Adeiladu Llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Ni allai Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig Grŵp Colegau NPTC fod yn hapusach, gan i’w casgliad o fedalau gyrraedd ffigyrau dwbl yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar.

Enillwyd medalau aur ym mhob un o’r pedair crefft a gynigir yn y Coleg gan gynnwys Paul Mason o Peintio ac Addurno, Kellan Marney o Waith Brics, Johnny Donaldson o Blastro a’r saer benywaidd Sammy Young.

Dyfarnwyd medalau arian i Thomas Morgan o Waith Saer, Kian Brown o Blastro a Craydon Rice o Waith Brics ac yna medalau Efydd i Mia Ball o Beintio ac Addurno, Thomas Johns o Blastro a Dafydd Jenkins o Waith Saer.

Enillwyd deg medal anhygoel i gyd, gan wneud y canlyniadau hyn y gorau y mae’r Adran Adeiladwaith wedi’u cyflawni erioed.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi’i chynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr a phrentisiaid ledled Cymru gystadlu a meincnodi eu sgiliau yn erbyn cyd-gyfoedion. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae’r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills UK.

Dywedodd Edward Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond mae’r ffaith bod 26 o fyfyrwyr Grŵp Colegau NPTC wedi ennill medalau ar draws yr holl gystadlaethau galwedigaethol yn dweud llawer nid yn unig am yr ymrwymiad y mae’r myfyrwyr hyn yn ei ddangos i’w crefftau ond hefyd am ansawdd yr addysgu a’r hyfforddi sy’n digwydd yn y coleg, hyd yn oed yn ystod pandemig.

Fel crefftwr fy hun sy’n arbenigo mewn gwaith brics, ni allwn fod yn hapusach i dynnu sylw at y diwydiant adeiladwaith – mae mynd â chymaint o fedalau adref yn gyflawniad anhygoel.

Mae Cystadlaethau Sgiliau yn ffordd wych o ymestyn a herio myfyrwyr y tu hwnt i’w gwaith cwrs. Mae gweld ystod mor amrywiol o sgiliau yn dod drwodd yn dangos bod myfyrwyr ym mhob maes wedi’u hyfforddi i safonau uchel iawn ar draws holl safleoedd ein coleg. Rwy’n falch iawn o’n holl fyfyrwyr a gystadlodd eleni, ac rwy’n llawn cyffro am y gystadleuaeth WorldSkills UK ac i weld faint o’r myfyrwyr hyn sy’n mynd ymlaen i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn”.