Mae Canolfan Adeiladwaith Maesteg yn Croesawu ei Myfyrwyr Cyntaf

Mae Canolfan Ragoriaeth Adeiladwaith ym Maesteg, The CUBE, wedi croesawu ei chafarn gyntaf o fyfyrwyr.

Mae’r cyfleustra sydd newydd gael ei ailwampio ac sy’n rhan o Grŵp Colegau NPTC, wedi agor ei ddrysau i’w myfyrwyr cyntaf ac mae’n paratoi’r ffordd i Adeiladwaith yng Nghymru gyda chyfres newydd o gymwysterau.

Mae’r cymwysterau newydd wedi’u dylunio i fodloni anghenion y diwydiant yn well, gan sicrhau bod myfyrwyr o Faesteg a’r cymunedau yn eu cylch yn ymbaratoi yn well am yrfa yn y sector adeiladu.

Roedd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC; Cynghorydd Ross Penhale-Thomas; Is-bennaeth: Cysylltiadau Allanol ac Ysgrifennydd Cwmni’r Grŵp Gemma Channock a Rheolwr y Ganolfan Jamie Piper, yno i gyfarch y recriwtiaid newydd a rhoddodd pob un ohonynt gynnig ar osod brics.

Gwnaeth y cyfleusterau argraff fawr ar Gynghorydd Penhale-Thomas, a fydd yn agor y ganolfan yn swyddogol mewn seremoni a gynhelir ym mis Ebrill a dywedodd:

“Dwi wrth fy modd yn gweld Canolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg yn cael adnewyddiad lle y bydd pobl ifanc lleol yn cael budd o ddysgu sgiliau y mae mawr galw amdanynt ar draws ystod o grefftau.

“Mae gan Grŵp Colegau NPTC record wych o gefnogi a chreu cyfleoedd i bobl ifanc y tu allan i leoliad traddodiadol fel yr ysgol, gan ddefnyddio eu sgiliau a’u doniau er mwyn eu hymbaratoi ar gyfer gyrfaoedd a swyddi.

“Dydy hyn ddim yn fuddsoddiad o safbwynt ariannol yn unig, mae’n fuddsoddiad yn nyfodol pobl ifanc lleol a phleidlais o hyder enfawr yng Nghwm Llyfni.

“Dwi’n edrych ymlaen at glywed ei llwyddiannau wrth symud ymlaen – a fydd yn cynnwys cenhedlaeth nesaf masnachwyr yn Nhe Cymru heb unrhyw amheuaeth”.

Mae pob myfyriwr wedi dechrau’r Diploma Lefel 1 mewn Crefftau Aml-Sgiliau ac mae ceisiadau ar agor erbyn hyn ar gyfer y rheiny sy’n gadael yr ysgol yr haf hwn, ar gyfer y cwrs amser llawn Sylfaen mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig.

Gall myfyrwyr ddewis dau brofiad crefft yn amrywio o Waith Coed, Bricwaith, Plastro a Gwaith Paratoi Tir (Construction Civils).  Ar ôl eu cyflawni, bydd y cymwysterau hyn yn darparu llwybrau camu ymlaen at astudiaethau pellach, cyflogaeth yn y sector adeiladu neu brentisiaeth.

Mae Construction Civils (Gwaith Paratoi Tir) yn rhan newydd sbon o’r cymhwyster ar gyfer 2022 ac mae’n cyfeirio ar waith paratoi is-arwynebau ar ddechrau unrhyw waith neu brosiect adeiladu.  Gwaith paratoi tir yw cam cyntaf y prosiect adeiladu fel arfer a gall gynnwys archwilio tir, clirio safleoedd, gwasanaethau safleoedd, tirlunio, isadeileddau a gwaith cryfhau’r tir.

Mae Canolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg yn cynnig cyfleusterau wedi’u teilwra’n arbennig sydd ar flaen y gad fel gweithdy mawr llawn cyfarpar, ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd cyfrifiaduron ac ystafell gyffredin i fyfyrwyr.

Byddwn yn cynnig cyrsiau amser llawn a rhan-amser sy’n addas i ddysgwyr o unrhyw oedran.

Chwiliwch ein cyrsiau i gael rhagor o fanylion