Myfyrwyr yn Ennill Cwpan Ieuenctid Cenedlaethol URC

Mae ein saith myfyriwr coleg yn rhan o dîm rygbi ieuenctid buddugoliaethus Bulls Llanfair-ym-Muallt sydd wedi ennill Cwpan Ieuenctid Cenedlaethol URC. Cafwyd gan y bechgyn arddangosfa wych o dalent wrth iddynt guro Pen-y-Bont Athletic 44-17 yn Stadiwm y Principality, Caerdydd.

Roedd y tîm hwn, sydd heb golli gêm, yn cynnwys saith myfyriwr o Ysgolion Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig a Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu Grŵp Colegau NPTC. Mae pedwar o’r myfyrwyr yn astudio ar gampws Bannau Brycheiniog: Morgan Price, Daniel McGoughlin, Rhys Davies a’r Capten Ryan Hughes, tra bod y tri arall wedi’u lleoli ar gampws y Drenewydd: Dylan Jones, Rowan Coyle ac Oakley Middleton.

Morgan Price oedd yr eilydd o asgellwr a sgoriodd seithfed cais Llanfair-ym-Muallt, tra chafwyd tri throsiad gan Rhys Davies a chic gosb i roi’r sglein ar berfformiad gwych.

Cafodd y bechgyn eu cefnogi ar y maes gan 1000 o gefnogwyr a deithiodd i lawr o Ganolbarth Cymru i’w gwylio yn creu hanes lleol.

Canmolodd prif hyfforddwr tîm Ieuenctid Llanfair-ym-Muallt, Chris Offa, y tîm; “Roedd y diwrnod cyfan yn achlysur gwych i’n carfan, ein clwb rygbi, ein teuluoedd a thref Llanfair ym Muallt.”

Dywedodd: “Mae’r tîm arbennig hwn yn gallu cyrraedd safonau uchel iawn, ac roeddwn i’n gwybod eu bod nhw’n gallu ennill y cwpan cenedlaethol a dyna pam wnaethon ni gymryd rhan yn y brif gystadleuaeth eleni.”

Mae gan y Bulls dair gêm bwysig i ddod – Y Bont-faen gartref ddydd Sadwrn yma 30ain Ebrill, Penarth i ffwrdd ddydd Sadwrn Mai 7fed a’r gêm olaf yn erbyn Llanilltud Faerdref ddydd Sadwrn Mai 14eg. Bydd angen i’r Bulls ennill pob un o’r tair gêm i gael siawns o ennill y gynghrair.

Meddai’r Capten Ryan Hughes, sy’n astudio Diploma Estynedig Lefel 2 mewn Gwaith Brics yng Ngholeg Bannau Brycheiniog: “Fel tîm rydyn ni’n dal i ddod i delerau â’r hyn rydyn ni wedi’i wneud! Mae’n anghredadwy i dîm fel ieuenctid Llanfair-ym-Muallt ennill y gwpan hon a gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth nesaf chwaraewyr rygbi Iau y clwb i wneud yr un peth.”

Roedd Oakley Middleton, myfyriwr ar y cwrs Sylfaen Adeiladwaith Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu – Trydanol a Phlymio yng Ngholeg y Drenewydd, yn falch o rannu ei orfoledd am y digwyddiad, gan chwerthin am y dryswch gyda’i esgidiau rygbi cyn y gêm ac aeth ymlaen i ddweud pa mor falch ydoedd o’u cyflawniad.

Dywedodd: “Roedden ni’n teimlo cefnogaeth y gymuned gyfan ac roedd yr awyrgylch yn wych ac roedd yn gyhoeddusrwydd gwych i’r clwb ac i’r tîm iau ac ieuenctid. Nawr mae ein golygon wedi troi at Uwch Gynghrair Rygbi Caerdydd.”