Grand Designs – Dosbarth Meistr mewn Datblygu Cynaliadwy gyda Kevin McCloud

Cymerodd staff Adeiladu o Grŵp Colegau NPTC, gyda darparwyr ar draws Cymru ynghyd â Cholegau Cymru, ran mewn gweithdy ar-lein ynglŷn â datblygu cynaliadwy ac adnewyddu carbon isel gyda’r cyflwynydd o’r rhaglen Grand Designs ac arweinydd dylunio Kevin McCloud. Y gweithdy oedd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau o dan y Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth (KTS).  KTS yw cysyniad newydd sy’n targedu colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru er mwyn cyllido darpariaeth o ddosbarthiadau meistr, prosiectau ymchwil neu weithgareddau dysgu eraill a ddylunnir er mwyn cyflymu a chynyddu arbenigedd ymhlith staff.  Dylai’r gweithgareddau hyn hefyd arwain at wella gwybodaeth y dysgwyr a’r profiad dysgu mewn pynciau megis sgiliau gwyrdd a digidol, adeiladu ôl-ffitio a pheirianneg.

Mae KTS yn anelu at ddod ag arbenigedd y diwydiant gyda’r bwriad penodol o ddarparu cynnwys a chysyniadau newydd yn wahanol i ddysgu’r cwricwlwm cyfredol.  Dylai hyn ymhen amser, arwain at ddatblygu rhaglenni a llwybrau dysgu newydd ar lefel uwch yn ogystal â gwell brofiad i’r dysgwr yn y meysydd pwnc dan sylw.

Bydd y Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth ar gael ledled Cymru a bydd yn cryfhau gweithio a chydweithredu mewn partneriaethau fel y rhennir arbenigedd ar draws y rhwydwaith o golegau AB a gyda darparwyr dysgu seiliedig-ar-waith annibynnol.

Croesawyd y digwyddiad cyntaf gan Ian Lumsdaine sef Cyfarwyddwr Astudiaethau Grŵp Colegau NPTC a rhoddwyd gair o groeso ganddo i’r datblygwr, darlunydd, ysgrifennydd a chyflwynydd teledu adnabyddus Kevin McCloud, sy’n enwog am ei brwdfrydedd dros adeiladu eco. Enillodd Kevin radd anrhydeddus sef Doethur mewn Dylunio gan Oxford Brookes a Phrifysgol Plymouth. Derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus o Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydeinig yn 2006 a Chymdeithas Goleuadau a Goleuo (SLL) yn 2009 ac fe’i penodwyd yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2014 am wasanaethau i ddylunio cynaliadwy ac adnewyddu adeiladau i arbed ynni. Mae newydd orffen cyflwyno Grand Designs Live yn yr Excel yn Llundain a oedd yn arddangos y newydd bethau diweddaraf mewn inswleiddio, deunyddiau cynaliadwy a thechnoleg i arbed ynni trwy arddangos cartref carbon isel – a grëwyd gydag arbed ynni mewn golwg – ysbrydoli a rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ynglŷn â dyfodol dylunio cartrefi ecogyfeillgar.

Dechreuodd Kevin wrth amlinellu’r prif themâu: Gwyrdd, Economaidd, Carbon Sero, Cynaliadwyedd a’r term ambarél y mae wedi ei fathu; “Sustainazerogreecological”.

Wedyn edrychodd ar y prif newydd bethau sydd wedi digwydd dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf o ran datblygiadau carbon isel ac adnewyddu a’r ffordd y mae technoleg gartrefi yn mynd i symud yn ei blaen yn y dyfodol agos.

Cwmpesir y gweithdy newydd bethau ym meysydd:

Gwaith Daear – System rafftio sy’n lleihau faint o goncrid a ddefnyddir mewn sylfeini a deunydd inswleiddio a wneir o hen jîns.

Corc – Deunydd gwastraff o’r diwydiant gwin yn cael ei ailddefnyddio fel deunydd inswleiddio. Yn gryf iawn o safbwynt ei strwythur, deunydd inswleiddio ardderchog sy’n gallu anadlu ac yn gwrthsefyll pydredd ac ymosodiadau ffwngaidd.

Bambŵ – Wedi’u prosesu a’u troi yn gynhyrchion o bren.  Deunydd amgen o bren haenog, tebyg o barhau a all gael ei defnyddio ar gyfer lloriau a grisiau.

Heulol – Paneli sy’n cwmpasu’r tŷ cyfan, hyd yn oed ar ffurf ffenestri. Mae tai cymdeithasol yn hyrwyddo’r tŷ 24v yn barod i leihau’r defnydd o drydan.

Graffein – Yn cael ei ychwanegu at baent i’w neud yn fwy tebyg o barhau, gallu anadlu ac yn rhydd o VOC. Ail-greu cynhyrchion traddodiadol.

Aeth Kevin wedyn ymlaen i gyflwyno’r prosiect ‘Green Grads’ lle y mae graddedigion newydd yn gweithio ar syniadau blaengar a chynaliadwy. Esboniodd sut y mae agweddau pobl ifanc a’u gwaith dylunio i’w hedmygu. Maent yn gyrru syniadau newydd ac yn meddu ar gyfeiriad meddwl sy’n wahanol wrth gymharu â chenedlaethau blaenorol am eu bod yn byw ac yn anadlu materion amgylcheddol.

Cyflwynwyd Kevin waith y ‘Green Grad’ Emma Appleton a gafodd y syniad o ailosod peipen ddŵr traddodiadol gyda rhywbeth gwahanol. Mae cydrannau yn clicio gyda’i gilydd ac ar adeilad ac mae cydau bach gyda hadau wedi’u hintegreiddio arnynt. Mae dŵr yn mynd i lawr yn araf, yn igam-ogam ac yn cael ei amsugno gan wreiddiau’r planhigion, gan greu wal wyrdd.  Mae prototeip ar gael yn barod ac yn cael ei gynhyrchu ar raddfa fach, gan ddangos pa mor effeithiol y gall syniadau fel hyn fod mewn realiti.

Wedyn siaradodd Kevin â’r ymagwedd ‘Fabric First’ ar adeiladwaith, sy’n defnyddio cynhwysion naturiol i ddarparu ymateb wedi’i hintegreiddio’n llwyr i inswleiddio ac awyru. Mae’n annog ymatebion naturiol, gan dynnu ar ysbrydoliaeth o’r byd natur.

Rhannodd sawl enghraifft â’r grŵp o adeiladau a adeiladwyd gyda chynaliadwyedd wrth eu gwraidd ond hefyd wrth ystyried diben yr adeilad a’r bobl sydd yn ei ddefnyddio; o eglwys sy’n gwrthsefyll daeargrynfeydd yn Christchurch, i adeilad pren uchel sy’n gwrthsefyll tân yn Norwy, i Ganolfan Canser Maggie’s yn Leeds a adeiladwyd mewn coedwig gan gynnwys pren naturiol a phlanhigion gwyrdd i hyrwyddo ymdeimlad o dawelwch, gobaith a thwf.

Ar ddiwedd y sesiwn datganodd Kevin ystadegyn syfrdanol, hynny yw bod 20% o bopeth a brynir ac a ddefnyddir mewn Adeiladwaith yn cael ei wastraffu o ganlyniad i aneffeithlonrwydd y gwaith safle yn bennaf oll. At hynny, mae cost adnoddau dynol.  Esboniodd Kevin am brosiect blaengar newydd lle y mae tai yn cael eu hadeiladu yn eu cyfanrwydd mewn ffatri, i gynllun penodol ac mewn crynswth.  Mae hyn yn y lleihau aneffeithlonrwydd i raddau helaeth ac mae Kevin yn credu mai dyma’r ffordd o adeiladu yn y dyfodol. Tynnodd sylw at y ffaith ein bod yn gallu naill ai parhau i adeiladu mewn dull aneffeithiol a brwnt o fewn i amgylchedd sydd yn llawn mor frwnt neu gyflawni pethau mewn dull cynaliadwy a gwyrdd a fydd, o dipyn i beth, yn gwella ein hamgylchedd a’n llesiant.

Daeth Kevin ‘r sesiwn at ei ben gyda sesiwn Holi ac Ateb agored a chytunodd y cyfranogwyr ar ymrwymiad a rennir i symud ymlaen mewn dull cynaliadwy yn y dyfodol.

Dywedodd Ian Lumsdaine: “Darparodd Kevin sesiwn wybyddus a oedd yn wir yn ymgysylltu ag ac yn ysbrydoli’r gynulleidfa trwy gwmpasu defnydd cynaliadwy o ddeunyddiau, adeiladau a ffabrig wrth adeiladu.   Efallai yn bwysicach roedd y drafodaeth am sut mae’n rhaid i’n holl ymddygiadau newid os ydyn ni am ddarparu amgylchedd adeiledig sy’n ymateb i heriau’r presennol a’r dyfodol o ran datblygiadau carbon isel ac sydd hefyd yn dda o safbwynt esthetaidd”.

Mae dosbarthiadau meistr eraill ar y gweill ym meysydd Amaethyddiaeth Gynaliadwy, Roboteg KUKA, Dysgu Dwfn Deallusrwydd Artiffisial (AI)/ Realiti Rhithwir (VR), Technolegau newydd mewn Cynhyrchu Ffilmiau.

Cliciwch y linc isod i ddarllen mwy am Gynllun Trosglwyddo Gwybodaeth Colegau Cymru.

Gynllun Trosglwyddo Gwybodaeth