Mae Grŵp Colegau NPTC wedi cael ei achredu gan ymgyrch y Rhuban Gwyn wrth ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod gan ddynion

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi ymrwymo i anelu at roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod wrth ddod yn sefydliad sydd wedi’i achredu gan y Rhuban Gwyn.  Fel rhan o’r broses achredu bydd Grŵp Colegau NPTC yn datblygu a darparu cynllun gweithredu cynhwysfawr i newid y diwylliannau sy’n arwain at gamdriniaeth a thrais ac i hyrwyddo cyfle cyfartal i’r rhywiau.

Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC a Llysgennad Dynodedig y Rhuban Gwyn dros y Coleg:“Rwy’n falch o sefyll yn gadarn a chefnogi popeth sy’n cael ei hyrwyddo gan ymgyrch y Rhuban Gwyn, i annog a galluogi dynion eraill i gymryd yr addewid ac ymuno â ni i gefnogi achos mor bwysig.”

Mae’r Rhuban Gwyn yn ymgyrch byd-eang sy’n annog pobl, yn arbennig dynion a bechgyn, i weithredu gyda’i gilydd ac fel unigolion i newid yr ymddygiad a’r diwylliant sy’n arwain at gamdriniaeth a thrais.  Mae’r weithred o wisgo rhuban gwyn yn arwydd o addewid i beidio byth ag achosi trais, esgeuluso trais neu anwybyddu trais gan ddynion yn erbyn menywod.

Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr Rhuban Gwyn DU: “Mae sefydliadau sydd wedi’u hachredu gan y Rhuban Gwyn wir yn gallu gwneud gwahaniaeth o ran rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod trwy hyrwyddo diwylliant o barch a chydraddoldeb ymhlith eu staff a chymunedau ehangach.  Wrth godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr, gall pobl dysgu sut i ffurfio cynghrair a thynnu sylw at ymddygiad treisgar a difrïol wrth ei weld, boed yn y gweithle neu y tu hwnt.  Rydyn ni wrth ein bod i groesawu Grŵp Colegau NPTC fel un o’r sefydliadau sydd wedi’u hachredu gan y Rhuban Gwyn ac edrychwn ymlaen at gyd-weithio.”