Pencampwr Codi Pŵer yn Ymuno â’r Tîm yng Nghanolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg

Ymunodd y Codwr Pŵer o fri rhyngwladol Chris Jenkins yn ddiweddar â’r tîm yng Nghanolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg (rhan o Grŵp Colegau NPTC) ac mae eisoes yn cael effaith fawr ar y myfyrwyr. Mae Chris yn gweithio fel Technegydd Gweithdy Adeiladwaith yn y ganolfan, yn paratoi’r holl gyfarpar ac offer yn barod ar gyfer addysgu.

Mae Chris yn Godwr Pŵer a Dyn Cryf uchel ei barch sydd wedi cystadlu ar draws y byd ar y lefel uchaf. Mae wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau yn amrywio o Dallas a Las Vegas i Bontypridd a Phort Talbot. Cystadlodd Chris yn ei gystadleuaeth gyntaf yn 1999, yn 17 oed, ac ef sydd â record y byd iau ar gyfer y ‘deadlift’ gyda 331kg ar 90kg o bwysau corff.

Yn 2001, enillodd ei deitl byd iau Codi Pŵer cyntaf yn Dallas, Texas cyn ei ennill eto yn 2003 ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i ennill pedwar teitl byd ar lefel hŷn.

Yn 2011 enillodd Chris ei gystadleuaeth Mr Olympia Pro Invitational gyntaf yn Las Vegas, ac yn ôl Chris dyma uchafbwynt ei yrfa hyd yn hyn. Mae Mr Olympia yn benwythnos ffitrwydd mawreddog yn Las Vegas lle mae cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn sawl camp wahanol fel crefft ymladd, codi pŵer, a’r Olympia Pro Invitational, lle mae’r tri codwr pŵer gorau o bob gwlad yn cael eu dewis i gystadlu am deitl Mr Olympia.

Mae Chris bellach yn cael ei hyfforddi gan yr Olympiad Natasha Perdue y bu ei thad Terry Perdue yn cystadlu yn erbyn y Codwr Pwysau Sofietaidd enwog a’r pencampwr Olympaidd Vasily Alekseyev. Mae’n cystadlu yng nghystadleuaeth Dyn Cryfaf Cymru yng Nghlydach fis nesaf lle mae’n gobeithio cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Dyn Cryfaf y Byd, sy’n cael ei chynnal yn Daytona Beach Florida.

Roedd gan Chris sawl swydd cyn ymuno â Grŵp Colegau NPTC, gan gynnwys gweithio yn y cyfryngau cymdeithasol, bod yn berchen ar gampfa, a gweithio gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans, ond dywedodd wrthym ei fod wedi bod eisiau gweithio ym myd addysg erioed.

Mae ei yrfa mewn chwaraeon wedi golygu bod Chris wedi dysgu sut i ddefnyddio ei sgiliau meddal yn dda ac yn teimlo bod hyn yn ei helpu yn ei rôl bresennol. Ar ôl rhyngweithio â phob math o wahanol bobl ledled y byd, mae Chris bellach yn defnyddio’r sgiliau hyn i helpu’r myfyrwyr. Mae hefyd yn dysgu’r myfyrwyr sut i fod yn ddisgybledig, yn brydlon ac yn barchus, ac mae’n gobeithio y gall ddefnyddio ei brofiad i gynorthwyo’r myfyrwyr i ddatblygu’r nodweddion hyn i’w helpu yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Ers i’r myfyrwyr ddod i wybod am stori Chris a’i gyflawniadau chwaraeon, mae’n teimlo eu bod wedi datblygu lefel uchel o barch tuag ato, gan ganiatáu iddo feithrin perthynas â nhw. Mae’n gweld bod y myfyrwyr yn gofyn llawer o gwestiynau iddo am y gampfa, codi pwysau a chystadlu ar lefel uchel.

Mae Chris yn ddarllenwr brwd ac mae wedi darganfod bod darllen cyn hyfforddi yn ei helpu i gael sesiynau gwell oherwydd ei fod wedi deffro rhan wybyddol ei ymennydd. Oherwydd hyn, mae Chris yn annog y myfyrwyr i ddarllen mwy a dod o hyd i rywbeth y maent yn mwynhau ei ddarllen oherwydd bydd o fudd iddynt yn academaidd ac mewn agweddau eraill ar fywyd, gan helpu i ddatblygu llu o sgiliau.

Mae Chris yn mwynhau gweithio yng Nghanolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg:

“Mae gweithio yn y Ganolfan yn wych, ers i mi ddechrau, mae Rheolwr y Ganolfan, Jamie Piper, wedi bod yn wych, yn fy helpu i setlo i mewn ac wedi mynd gam ymhellach i sicrhau bod gen i bopeth sydd ei angen arnaf fel y gallaf wneud fy swydd yn effeithiol”.

“Mae’r Ganolfan yn ddelfrydol i mi; mae llawer o amrywiaeth a llawer yn digwydd drwy’r amser, ac mae’n amgylchedd hynod gadarnhaol i ddysgu ynddo. Mae’n lle perffaith i alluogi pobl leol i ddysgu sgiliau newydd a’u helpu i ddod o hyd i waith mewn diwydiant y mae galw mawr amdano bob amser.”

“Mae’n wych i’r ardal leol gael canolfan fel hon, mae’n golygu bod pobl ifanc yn gallu derbyn addysg yn lleol yn lle gorfod teithio pellteroedd hir bob dydd ac rwy’n hapus fy mod yn gallu chwarae rhan yn eu haddysg”.

Mae Chris yn teimlo bod y sgiliau y mae’r myfyrwyr yn eu dysgu yn amhrisiadwy a byddant yn eu helpu i ddod o hyd i swydd dda pan fyddant yn cwblhau eu hastudiaethau. Mae’n credu bod gan y myfyrwyr yr offer a’r gofod i ddysgu a datblygu’r holl sgiliau y bydd eu hangen arnynt ym myd gwaith.

Os hoffech chi ddysgu mwy am Ganolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg a’r cyrsiau a gynigir, cliciwch ar y botwm isod.

Ganolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg

I gael gwybod mwy am gyrsiau adeiladwaith yn unrhyw un o’n safleoedd eraill, cliciwch ar y botwm isod.

Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig