Y Gweilch yn y gymuned ‘TACL’ x NPTC – Rhaglen Haf

Yr haf hwn, mae Grŵp Colegau NPTC yn cyd-weithio â’r Gweilch yn y Gymuned i ddarparu rhaglen ar gyfer gadawyr Blwyddyn 11.

Mae’r rhaglen yn cyfuno chwaraeon, addysg a busnes i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, gwella uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol a photensial myfyrwyr trwy gyfrwng hyfforddiant, gweithdai a lleoliadau gwaith gan dargedu myfyrwyr sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i’w helpu i bontio a chamu ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae’r rhaglen wedi’i dylunio’n benodol i weithio gyda myfyrwyr sydd am wella eu sgiliau meddal ar yr un pryd â’u llesiant a’u gweithgarwch corfforol.  Prif amcan TACL yw creu gwell dyfodol i bobl ifanc sy’n wynebu heriau gan roi’r cyfle iddynt ennill cymwysterau a phrofiadau cyflogadwyedd.

Mae TACL yn helpu dysgwyr i wneud dewisiadau mwy cytbwys am eu dyfodol trwy roi cynnig ar brofiadau byr mewn diwydiannau a sectorau amrywiol, gyda phartneriaid masnachol y Gweilch fel Philtronics, Keytree, NPTC a llawer mwy…

Mae gennym nifer o weithdai atyniadol am bynciau megis hunanhyder, arweinyddiaeth, sgiliau a galluoedd, iechyd, ffitrwydd a diet, ymddygiad yn y gweithle, paratoi ar gyfer cyfweliadau, gweithdai CV, rhifedd, cyfathrebu, dechrau eich busnes eich hun a llawer mwy.

Yn ogystal â’r gweithdai hyn, rydym yn cynnwys siaradwyr gwadd, gwirfoddoli yn y gymuned, cymwysterau a mwy.  Credwn fod y pethau hyn yn allweddol i lwyddiant y rhaglen.

Mae’r rhaglen yn anelu at ‘agor llygaid’ pob dysgwr i’r cyfleoedd sydd ar gael ym mro’r Gweilch, beth bynnag sydd o ddiddordeb iddynt.

Yn dechrau ddydd Llun 25 Gorffennaf 2022 tan ddydd Mercher 31 Awst, cynhelir y rhaglen yn Academi Chwaraeon Llandarcy.  Bydd gofyn i fyfyrwyr fynychu bob wythnos ar ddydd Llun, ar ddydd Mawrth ac ar ddydd Mercher rhwng 09:00 – 15:00. – am gyfnod o chwe wythnos.

Bydd myfyrwyr yn derbyn £10 y dydd, am fod yn bresennol a bydd modd cael ad-daliad os bydd angen iddynt dalu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel rhan o’r cwrs.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cwrs, cysylltwch â:  Melissa.sartain@ospreysrugby.com