Mae Ffrindiau yn Ailuno a Chanmol Cyrsiau TG

Daeth dau ffrind a oedd yn gyn-fyfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog yn ôl at ei gilydd unwaith eto yn ddiweddar yn eu hen ystafell ddosbarth gan roi sêl bendith i’r cwrs TG!

Roedd Jamie Smith (ar y chwith) a Luc Zimmer (ar y dde) yn astudio’r Diploma Estynedig mewn TG o 2017 i 2019 ac wedyn symudodd y ddau ymlaen i brentisiaethau yn eu meysydd o ddewis. Daeth y ddau ffrind yn ôl i’r coleg i ymweld â’u tiwtor, Helen Griffiths, gan eisiau rhannu eu hanes a’r hyn yr oeddynt wedi ei ddysgu trwy wneud y cwrs.

Penderfynodd Jamie nad oedd am gyflawni cymwysterau Safon Uwch ar ôl eu cymwysterau TGAU ac enillodd Diploma Lefel 2 mewn Coleg arall. Ar ôl iddo symud i’r ardal hon, roedd y cwrs BTEC Lefel 3 ar gael iddo.  Cyflawnodd radd teilyngdod ac wedyn lle ar brentisiaeth gyda chwmni e-fasnachu.  Erbyn hyn, mae e’n gweithio fel Arweinydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda’r un cwmni lle yr oedd yn gweithio fel prentis.

Roedd Jamie am bwysleisio “nad yw astudio TG yn golygu eich bod yn gorfod dechrau gyrfa ym maes TG. Mae dysgu sgiliau mewn Microsoft Office Excel, er enghraifft, yn golygu bod modd i fi wneud fy ngwaith yn gyflymach o lawer.”

Dywedodd Jamie hefyd: “Un o’r pethau gorau am y cwrs yw’r cyfle i ddysgu gwahanol agweddau ar gyfrifiadura.  Roedd gwersi am ddylunio’r we, gemau a seiberddiogelwch.  Rydw i wedi defnyddio fy sgiliau i helpu gyda phrosiect dylunio’r we yn y gweithle ers hynny.”

“Rydw i’n cofio mwynhau llawer o’r gwaith, fel fi a Luc yn gwneud cyflwyniad am seiberddiogelwch a Fortnite, a mynd ar deithiau i brifysgolion i fynychu gweithdai. Roedd ein dosbarthiadau hefyd yn fach a oedd yn golygu bod modd i ni dreulio mwy o amser gyda’r tiwtor a’i bod yn hawdd ffocysu.”

Yn y cyfamser, gyda chymorth Gyrfa Cymru, daeth Luc o hyd i gwrs Diploma Estynedig BTEC Lefel 3. Roedd eisiau symud ymlaen i rywbeth gwahanol i’w waith mewn lletygarwch ac ymrestrodd ar y cwrs ar ôl cyfweliad llwyddiannus.  Ar ôl cyflawni’r cymhwyster BTEC, mae Luc wedi symud ymlaen i brentisiaeth mewn Cymorth Technegol yng Nghaerdydd.

Ar ôl ei gyfweliad, dywedodd “Fe allwn i wedi dilyn y llwybr hawdd gan aros yn fy swydd ym maes lletygarwch, ond penderfynodd herio fy hunan a gwneud rhywbeth gwahanol.  Rydw i’n defnyddio rhywbeth fy mod i wedi ei ddysgu ar y cwrs bob dydd yn fy mhrentisiaeth.”

Ychwanegodd Luc ei fod “wedi dysgu llawer yn ogystal â sgiliau technegol. Roedd ein tiwtoriaid bob amser am i’r gwaith gael ei wneud yn brydlon, ffaith a oedd yn rhoi profiad i ni o weithio i gwrdd â therfynau amser; rhywbeth a allai wedi bod yn anodd i fi yn fy mhrentisiaeth am ein bod ni’n gorfod bodloni Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn rheolaidd.”

Wrth gyfeirio at yr hyn sydd wedi gwneud iddi deimlo’n fwy balch nag unrhyw beth arall, atebodd y tiwtor Helen Griffiths: “Gweld sut mae fy myfyrwyr wedi gwrando ar ein cyfarwyddyd ac wedi cychwyn ar yrfa. Mae pob myfyriwr sydd wedi dod yn ôl i ymweld â ni yn dweud mai ‘cwrdd â therfynau amser’ oedd un o’r sgiliau pwysicach a ddysgodd ganddyn nhw, yn ogystal ag ennill sgiliau TG.”

Os ydych yn meddwl mai Cyfrifiadura yw’r union bwnc i chi, neu os nad ydych yn siŵr beth sydd at eich dant, gallwch gyflwyno cais ar gyfer unrhyw un o’n cyrsiau nawr.