Wythnos Addysg Oedolion 2022

Eleni rydym yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion o’r 17eg i’r 23ain o Hydref.

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn fenter Cymru gyfan gyda dros 10,000 o oedolion yn cymryd rhan. Y nod yw hybu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sefydlu Cymru fel “Cenedl Ail Gyfle” ar gyfer dysgu gydol oes.

Mae dysgu oedolion yn gyfle i ddechrau o’r newydd – p’un a ydych am ehangu gorwelion, dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu rhai sy’n bodoli eisoes, dyma’ch cyfle i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhad ac am ddim ac i bawb a’i nod yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu sgiliau. Eleni bydd cannoedd o gyrsiau, sesiynau blasu, digwyddiadau, diwrnodau agored ac adnoddau dysgu sydd am ddim ac yn hygyrch i bawb.

I ddarganfod mwy am Wythnos Addysg Oedolion ledled Cymru dilynwch y ddolen isod:

Addysg Oedolion Cymru

Addysg Oedolion Cymru Grwp Colegau NPTC

Cwrdd â’n Dysgwyr sy’n Oedolion

Dewch i gwrdd â’n dysgwr cyntaf sy’n oedolyn sy’n cael sylw yr wythnos hon, Sammy Young. Mae Sammy yn fyfyriwr amser llawn yng Ngholeg Castell-nedd ac ar hyn o bryd yn astudio dau gwrs rhan-amser, Gwaith Coed Lefel 1 a Gwaith Saer Lefel 3. Enillodd Sammy fedal arian yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn 2021 ac mae’n anelu at wneud yn well eleni wrth iddi gystadlu yn Skill Build, a alwyd yn y “Gemau Olympaidd Adeiladu”.

Cofrestrodd y fam i dri sy’n 42 oed, ar gyfer Gwaith Saer Lefel 1 ac, o fewn yr wythnos gyntaf, roedd hi’n gwybod mai dyma’r maes iddi hi. Pan oedd Sammy yn yr ysgol, roedd yn rhagori mewn gwaith coed ac roedd ar frig ei dosbarth. Ar ôl iddi adael yr ysgol, aeth bywyd yn ei flaen a theimlai ei bod wedi anghofio mai dyna roedd hi’n caru ei wneud. Mae hi bellach wedi ailgydio yn ei hangerdd am waith saer ac yn mwynhau pob munud o ddychwelyd i ddysgu. I gael rhagor o wybodaeth am Sammy a’i stori gwyliwch y fideo isod.

Ein hail ddysgwr sy’n oedolyn yr wythnos hon yw Michael O’Callaghan. Ymunodd Michael O’Callaghan a astudiodd HND a Gradd mewn Cyfrifiadura â’r Coleg hefyd fel dysgwr sy’n oedolyn. Mae Michael yn gweithio mewn rôl datblygu a dadansoddi data i gwmni sy’n arbenigo mewn diogelwch tân goddefol ar gyfer adeiladau uchel. Os hoffech chi wybod rhagor am Michael a’i brofiadau yng Ngrŵp Colegau NPTC, gwyliwch y fideo isod.

Ein trydydd dysgwr sy’n oedolyn yw Daniel Phillips. Ar hyn o bryd mae Daniel yn astudio HND Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac yn mynd i mewn i’w ail flwyddyn. Roedd Daniel wedi astudio yn Academi Chwaraeon Llandarcy tan 2017 a dychwelodd i’r coleg ym mis Medi 2021. Bu Daniel yn gweithio yn Ysbyty Treforys fel Cynorthwyydd Gweinyddol cyn dychwelyd i addysg. I ddarganfod mwy am Daniel yn ei amser yn y coleg gwyliwch y fideo isod.

Ein dysgwyr nesaf sy’n oedolion yw John Evans a Samantha Gibbs y gwnaethant ddychwelyd i addysg ar ôl 20 a 25 mlynedd yn ôl eu trefn. Cwpl yw’r ddau ac mae’r ddau yn astudio BTEC y Gyfraith, Busnes a Chyllid yng Ngholeg Bannau Brycheiniog. Mae Samantha hefyd yn astudio Saesneg yn y coleg. Dychwelodd y ddau i addysg gan edrych i newid gyrfa a gweithio o fewn maes y maent yn ei fwynhau. I ddarganfod mwy am John a Samantha gwyliwch y fideo isod.

Ein dysgwr olaf sy’n oedolyn sy’n cael sylw yr wythnos hon yw Danika. Mae Danika yn ddysgwr sy’n oedolyn a ddychwelodd i addysg i astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Afan. Mae astudio yn y coleg wedi rhoi’r hyder i Danika symud ymlaen ar ei llwybr gyrfa ac mae wedi agor drysau i gyfleoedd newydd. I ddarganfod mwy am Danika a’i hamser yn y coleg gwyliwch y fideo isod.

Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn falch iawn o’n dysgwyr sy’n oedolion ac yn anelu at eu cefnogi ym mhob ffordd y gallwn wrth iddynt ddychwelyd i addysg. Mae llawer o ddysgwyr sy’n oedolion yn ei chael hi’n anodd trosglwyddo’n ôl i addysg i ddechrau, ond ein nod yw gwneud y cyfnod pontio hwn mor esmwyth a hawdd â phosibl. Rydym yn deall bod pob dysgwr yn wahanol a bydd ganddynt anghenion gwahanol trwy gydol eu cyfnod yn y coleg. Mae gennym rwydweithiau cymorth penodol ar waith i helpu myfyrwyr ag unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnynt. I gael rhagor o wybodaeth am y math o gymorth rydym yn ei ddarparu dilynwch y ddolen isod i’n tudalen Cymorth i Fyfyrwyr:

Parth Myfyrwr

Ar Ddydd Mercher, 19eg o Hydref byddwn yn Sgiliau Cymru yn y Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Mae yna sesiwn i oedolion rhwng 4pm a 6:30pm lle gall dysgwyr gael cyngor ac arweiniad am ein darpariaeth rhan amser. Beth am ddod draw i weld beth sydd gennym i’w gynnig? Hefyd, mae llawer o’n cyrsiau am ddim!*

Yn ogystal â’r noson wybodaeth, bydd ein staff allan yn y gymuned yr wythnos hon, yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar ein hystod o gyrsiau a’r opsiynau gwahanol sydd ar gael. Byddwn hefyd yn cynnal ystod eang o sesiynau blasu a gweithdai galw heibio. I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Addysg Oedolion, ac am restr lawn o leoliadau, amseroedd a dyddiadau, ewch i’n tudalen arbennig ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion

Wythnos Addysg Oedolion

*Cyrsiau am ddim yn amodol ar delerau ac amodau a chymhwysedd. Ewch i’n gwefan i ddarganfod mwy

Cyrsiau Rhan Amser

Mae gennym ni amrywiaeth o gyrsiau amser llawn yn dechrau ym mis Tachwedd; ni fu erioed amser gwell i ymuno â ni!

Cyrsiau Tachwedd 2022