Pen-blwydd Hapus yn 100 oed i’r rhyfeddol Margaret Thorne, CBE., OBE.

Honorary Fellow Margaret Thorne on stage in wheelchair in graduation robes.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn anfon dymuniadau pen-blwydd at ei gyn-fyfyriwr hynaf a’i Gymrawd, yr hynod Margaret Thorne, CBE., OBE., sy’n dathlu 100 mlynedd.

Mae Mrs Thorne yn adnabyddus am ei chyfraniad i’r gwasanaethau gwirfoddol, ac er anrhydedd a chydnabyddiaeth o’r cyfraniad y mae wedi’i wneud, dyfarnwyd OBE., i Margaret yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ym 1984. Cafodd y wobr hon ei huwchraddio yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 80 oed i CBE, am ei gwaith fel Cadeirydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (NPTCVS) a sefydliadau eraill yng Nghymru.

Cafodd Mrs Thorne ei geni a’i magu yng Nghaint yn ystod y blynyddoedd cyn y rhyfel ac mae’n cyfeirio ati’i hun fel ‘Maid of Kent’. Mae hi bellach, fodd bynnag, yn ‘Ddynes Gymreig’ fabwysiedig a hoffus.  Yn ei harddegau, datblygodd ymdeimlad o ddyletswydd gyhoeddus ac roedd ei hymdrechion cyntaf i wirfoddoli ym 1938 yn cynnwys casglu arian ar gyfer llaeth sych i helpu babanod yr effeithiwyd arnynt gan Ryfel Cartref Sbaen. Ar yr adeg hon, roedd yn mynychu’r ysgol ramadeg leol ac yn bwriadu mynd i’r coleg. Fodd bynnag, roedd gan ffawd gynllun gwahanol.

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, dechreuodd ei bywyd gwasanaeth cyhoeddus o ddifrif. Daeth yn aelod o staff Cymuned Caldecott – ysgol breswyl i blant o gefndiroedd cythryblus. Yn ystod y blynyddoedd hyn, dioddefodd a rhannodd lawer o brofiadau gyda’r gymuned, gan deithio gyda nhw o Gaint i Dorset i osgoi ymosodiadau.

Ar ddiwedd y rhyfel, dychwelodd Mrs Thorne i Gaint ac yn 1949 priododd Ivor, cyfreithiwr mewn llywodraeth leol, a oedd wedi gwasanaethu yn y fyddin yn ystod y rhyfel. Ym 1951, ar ôl symud ddwy waith a genedigaeth y cyntaf o’u dau blentyn, daeth y cwpl i Gastell-nedd. Yma, dechreuodd ymwneud â’r sector gwirfoddol yn fuan. Yn benodol, bu’n gweithio gyda’r Groes Goch Brydeinig ac yn y pen draw daeth yn Llywydd Cangen Gorllewin Morgannwg. Mae hi hefyd wedi derbyn medal am drigain mlynedd o wirfoddoli gyda nhw.

Mrs Thorne oedd y gyntaf i dderbyn Cymrodoriaeth gan Grŵp Colegau NPTC yn 2017. Roedd ei hanrhydedd yn cynrychioli llawer iawn o ymrwymiad i’w dyletswyddau gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Jill Harding sy’n aelod o Fwrdd y Gorfforaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC ac a fu’n gweithio gyda Mrs Thorne yn NPTCVS: “Mae Mrs Thorne yn tour de force! A dweud y gwir, mae hi’n un o’r bobl mwyaf rhyfeddol dwi erioed wedi cyfarfod. Anfonwn ein dymuniadau a’n llongyfarchiadau diffuant ati.”

Ychwanegodd Dr Rhobert Lewis, Cadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth yng Ngrŵp Colegau NPTC ei longyfarchiadau. “Ar ran y Coleg, dymunwn pen-blwydd hapus iawn yn 100 oed i Mrs Thorne. Mae’n fraint cael menyw mor eithriadol yn Gymrawd o’r Coleg.”

Dywedodd Catherine Lewis, Prif Weithredwr Dros Dro a Phennaeth Dros Dro Grŵp Colegau NPTC: “Mae’n gyflawniad anhygoel i fenyw arbennig iawn sydd wedi gwasanaethu’r gymuned gyda balchder ac urddas. Llongyfarchiadau mawr a diolch gan bawb yn y Coleg.”