Bric Arall yn y Wal

Brickaying students building a fireplace.

Roedd myfyrwyr gosod brics Lefel 1 yng Ngholeg y Drenewydd yn awyddus i brofi eu bod yn fwy na pharod ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfaoedd wrth iddynt gael eu herio i ddysgu sgiliau Lefel 3.

Mae myfyrwyr sy’n astudio ar y Diploma Aml-Sgil Lefel 1 mewn Adeiladwaith yn ymdrin â gwybodaeth am iechyd a diogelwch, sesiynau ymarferol a theori, yn ogystal â dysgu’r pethau sylfaenol mewn sgiliau gosod brics. Bydd y garfan a ddechreuodd ym mis Medi yn mynd ymlaen i chwilio am brentisiaethau neu astudiaethau pellach.

Fodd bynnag, gwnaeth sgiliau’r dysgwyr, a oedd wedi gorffen eu hamserlen o asesiadau’n gynnar, gymaint o argraff ar y darlithydd gwaith brics Richard Jones yng Ngholeg y Drenewydd, fe benderfynodd osod her iddynt. Roedd yn cynnwys dysgu sgiliau lefel uwch fel cyrsiau dentil, ffurf dannedd cŵn ac adeiladu bwa. Mae hwn fel arfer yn waith y byddai myfyrwyr yn dod ar ei draws wrth wneud cymhwyster Lefel 3. Atebodd y myfyrwyr yr her.

Dywedodd Richard: ‘Mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n galed ac wedi bod yn gweithio ar lefel uwch ers peth amser, felly penderfynais osod her iddynt wneud mwy o waith brics addurniadol tebyg i Lefel 3. Roeddwn yn falch o weld eu bod wedi ymateb i’r her ac wedi cynhyrchu gwaith o ansawdd da iawn. Mae wedi dangos i mi eu bod wedi’u hysgogi i fynd â’u sgiliau i’r lefel nesaf, sef yr hyn yr wyf am ei weld ar Lefel 1.’

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ein cyrsiau adeiladu ewch i’r wefan www.nptcgroup.ac.uk neu ewch i weld ein gweithdai yn y noson agored nesaf ar 21 Mawrth 2023.