Llwyddiant Ysgubol i Ddosbarth 2025 gyda Chanlyniadau Arholiadau Rhagorol!

Students celebrating at results day with their results slips and a balloon arrangement.

Mae dathliadau ar eu hanterth yng Ngrŵp Colegau NPTC wrth i Ddosbarth 2025 ddathlu cyflawniadau anhygoel yn eu cymwysterau Safon Uwch a galwedigaethol.

Gyda chyfradd lwyddo gyffredinol o 99 y cant bron, unwaith eto, mae’r myfyrwyr wedi dangos eu hymrwymiad, eu doniau a’u penderfyniad i ddisgleirio. Mae’r canlyniadau eleni wir yn rhyfeddol wrth i fwy na hanner o’r myfyrwyr gyflawni graddau A*- B a bron chwarter ohonynt yn cyflawni’r graddau uchaf A*- A.

Llwyddodd mwy na thri chwarter o’n myfyrwyr i gyflawni graddau A* – C. Mae’r myfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen GATE (i fyfyrwyr galluog a thalentog) yn parhau i osod y safon yn uwch, gyda 84 y cant yn cyflawni graddau A* – A a 100 y cant yn derbyn graddau A* – B. Cafwyd llwyddiant mawr hefyd gan y myfyrwyr a oedd yn sefyll eu cymwysterau Galwedigaethol L3, gyda 196 o fyfyrwyr yn cyflawni graddau rhagoriaeth, a 49 o’r myfyrwyr hyn yn cyflawni’r proffil graddau uchaf posibl mewn cymhwyster galwedigaethol, sy’n cyfateb i radd A* ar Safon Uwch.

At hynny, cyflawnodd 359 o ddysgwyr y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch yn llwyddiannus gyda chyfradd lwyddo arbennig o 84 y cant yn cyflawni graddau A* i C.

Gyda’r canlyniadau rhagorol hyn, mae llawer o fyfyrwyr wedi sicrhau lle yn y brifysgol ac mae eraill yn barod i ddilyn llwybrau gyrfa cyffrous o’u dewis ar ôl cyflawni’r graddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Gyda rhaglen o brentisiaethau eang ei chwmpas ar gael yn y Coleg, bydd llawer o fyfyrwyr yn cychwyn ar brentisiaeth. Darparir mwy na 2000 o brentisiaethau bob blwyddyn gan y Coleg fel rhan o’i rhaglen lwyddiannus.

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd gyda’r canlyniadau:

“Mae ein myfyrwyr a’n staff yn haeddu cael eu canmol i’r eithaf am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Mae’r canlyniadau hyn yn anhygoel gyda chyfradd lwyddo gyffredinol o 99 y cant a’r nifer o raddau A*-A yr un peth â llwyddiant y llynedd.

Mae ein Myfyrwyr Galluog a Thalentog a ddilynodd y rhaglen GATE wedi rhagori ac mae ein myfyrwyr galwedigaethol yn parhau i berfformio ar y lefel uchaf.

Mae canlyniadau’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch hefyd yn rhagorol gyda chyfradd lwyddo o 100 y cant.

Mae’n destun balchder mawr i bawb sydd wedi cyfrannu. Rydyn ni yma i roi cyngor o ansawdd da i bawb, os hoffech gael lle yn y brifysgol, ceisio swydd, cyflawni prentisiaeth neu barhau i ddatblygu’ch sgiliau ymhellach trwy Addysg Bellach. Gallwn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych i’ch helpu i wneud eich penderfyniadau. Llongyfarchiadau i Ddosbarth 2025, mae eich gwaith caled wedi bod yn ffrwythlon ac mae’r dyfodol yn gyffrous i bob un ohonoch chi.”

Dyma grynodeb o ganlyniadau gwych rhai o’n myfyrwyr:

Astudiodd Cameron Thomas Fioleg, Cemeg a Seicoleg, gan ennill graddau A* ar draws y bwrdd, ac mae’n astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Trosglwyddodd Cameron o’r chweched dosbarth i Goleg Castell-nedd, a dywedodd: “Mae’r coleg yn amgylchedd mor gefnogol, ond rydych chi’n dal i gael eich trin fel oedolyn. Mae fy amser yma wedi bod yn anhygoel.”

Astudiodd Georgia Evans Seicoleg, Cymdeithaseg a Throseddeg, gyda phroffil A*AA. Mae hi’n mynd i Fryste i astudio Seicoleg. Wrth siarad am ei Lefelau A, dywedodd: “Roeddwn i wrth fy modd â fy amser yn y Coleg. Mae fy narlithwyr wedi bod yn anhygoel.”

Astudiodd Oliver Jones Fioleg, Ffiseg a Chemeg Lefel A, gan ennill graddau A*AA. Dywedodd: “Rydw i wedi mwynhau fy holl bynciau yn fawr iawn, ac mae’r darlithwyr wedi bod yn anhygoel, ond roeddwn i wrth fy modd â Bioleg, a dyna beth rydw i’n mynd i’w astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Astudiodd Nia Thomas Addysg Gorfforol, Seicoleg a Chymdeithaseg. Dewisodd Goleg Castell-nedd oherwydd yr ystod eang o bynciau Lefel A a gynigir. “Rydw i mor falch fy mod i wedi dewis astudio yma, ac mae fy narlithwyr pwnc wedi fy mharatoi ar gyfer y brifysgol.” Mae hi’n mynd i Gaerwysg i astudio Seicoleg.

Astudiodd Caitlin Charles Fioleg, Cemeg a Mathemateg a chyflawnodd 3 gradd A. Mae hi’n mynd i Gaerfaddon i astudio Fferylliaeth. Wrth siarad am ei hamser yng Nghastell-nedd, dywedodd: “Roedd y coleg yn dda iawn—roedd yn llawer o waith, ond roedd yna lawer o gefnogaeth.”

Catlinn Charles with her exam certificate.

Caitlin Charles

Astudiodd Lucian Harris Seicoleg, y Gyfraith a Hanes, gyda phroffil gradd A B A. Dywedodd: “Rwy’n mynd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi cael profiad gwych yng Ngholeg Castell-nedd, ac mae wedi fy mharatoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol.”

Lucian Harris with his exam certificate.

Lucian Harris

Astudiodd Ellis Bateman Fathemateg, Ffiseg ac Economeg, gan gyflawni graddau A ym mhob pwnc. Mae bellach yn mynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio Peirianneg.

Astudiodd Haiden Hogg Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg, gyda graddau ABA. Mae bellach yn mynd i Aberystwyth i astudio Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg. Dywedodd: “Cefais amser gwych. Mwynheais fy holl ddosbarthiadau yn fawr a meithrin perthnasoedd da gyda fy holl ddarlithwyr.”

Haiden Hogg with his exam certificate.

Haiden Hogg

Astudiodd Patrick McGinley Economeg, Hanes a’r Gyfraith, gan ennill graddau AAA*. Roedd wrth ei fodd gyda’i raddau ac mae’n mynd i Brifysgol Warwick i astudio’r Gyfraith gyda’r bwriad o ddod yn fargyfreithiwr. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn ac yn gyffrous am y dyfodol. Mae’r gefnogaeth yn y Coleg wedi bod yn wych.”

Patrick McGinley with his exam certificate.

Patrick McGinley

Astudiodd Gracie George Seicoleg, Cymdeithaseg a Saesneg gyda phroffil AAA. Ei cham nesaf yw astudio seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd: “Roeddwn i wrth fy modd â Choleg Castell-nedd ac roedd y darlithwyr yn wych.” Dywedodd ei mam Louise: “O ddechrau ei hastudiaethau, roedd ei darlithwyr yn gefnogol iawn. Rydym ni i gyd mor falch o’i chyflawniadau.”

Astudiodd Ruben Tse BTEC Busnes, gan ennill gradd D*D*D* anhygoel. Mae’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Rheolaeth Busnes. Dywedodd, “Llwybr galwedigaethol oedd y dewis cywir i mi.”

Astudiodd Eleanor Rabaiotti Fathemateg, Bioleg a Chemeg, gan ennill canlyniad gwych o A*A*A*. Priodolodd ei llwyddiant i’w gwaith caled, ond hefyd i ymroddiad a chefnogaeth ei darlithwyr. Mae hi nawr yn mynd i Gaerdydd i astudio meddygaeth.

Astudiodd Jakub Osiadly Wasanaethau Amddiffynnol mewn Unffurf yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Ar ôl sicrhau gradd DDD, mae’n bwriadu astudio gradd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ar Gampws Prifysgol Grŵp Colegau NPTC. Dywedodd: “Mae’n wych cael y cyfle i astudio gradd mewn amgylchedd cyfarwydd, gan gael fy addysgu gan ddarlithwyr rwy’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.”

Jakub Osiadly with his exam certificate.

Jakub Osiadly

Enillodd Evan Williams radd D*D*D drawiadol mewn BTEC Busnes ac mae’n bwriadu dilyn Prentisiaeth Uwch mewn Busnes ar ôl gadael y Coleg. Dywedodd: “Mae prentisiaeth gradd yn ddewis arall ymarferol i brifysgol ac mae’n cynnig y cydbwysedd perffaith o gymwysterau a phrofiad.”

Astudiodd Declan Hughes Gerddoriaeth yng Ngholeg Castell-nedd, gan ennill proffil D*D*D. Mae wedi cael ei dderbyn i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i astudio Jazz.

Declan Hughes with his exam certificate.

Declan Hughes

Astudiodd Ethan Matthews Deithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Castell-nedd ac enillodd radd DDD. Mae bellach yn mynd ymlaen i astudio Rheoli Digwyddiadau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Astudiodd Steffan Arcari-Jones Gemeg, Bioleg a Ffiseg. Sicrhaodd proffil gradd BAA le iddo astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth fyfyrio ar ei gyfnod yng Ngholeg Castell-nedd, dywedodd: “Yn fy mlwyddyn AS, wnes i ddim cael y graddau gorau, ond gyda chefnogaeth anhygoel fy narlithwyr a’r tîm cymorth myfyrwyr, llwyddais i gael y graddau oedd eu hangen arnaf i ddilyn fy mreuddwyd o astudio Meddygaeth. Rwyf wrth fy modd.”

Gallwch weld ein horiel Diwrnod Canlyniadau llawn ar Facebook