Dathlu Llwyddiant ar draws Powys: Mae Myfyrwyr yn Disgleirio yng Ngholeg Y Drenewydd a Choleg Bannau Brycheiniog

Students in front of a Results Day display in Newtown College.

Roedd myfyrwyr Coleg Y Drenewydd a Choleg Bannau Brycheiniog yn wên i gyd wrth gasglu eu canlyniadau, gan gynrychioli adeg o falchder i ddysgwyr, staff a’r gymuned ehangach a naws gyffrous ar gyfer y dyfodol disglair o’u blaenau.  Rhannodd myfyrwyr eu camau nesaf, a oedd yn amrywio o addysg uwch i brentisiaethau gradd a chyflogaeth yn eu diwydiannau dewisol.

Uchafbwyntiau Coleg Y Drenewydd

Busnes – Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC
Mae graddedigion yn camu ymlaen i feysydd amrywiol a chyffrous. Bydd Grace Evans yn astudio Busnes Amaeth gyda Rheolaeth ym Mhrifysgol Harper Adams. Mae Elis Derwas yn cychwyn ar ei yrfa mewn Gwerthu a Lletya ym Morris, Marshall a Poole. Bydd Saffron Burke yn cyfuno ei chreadigrwydd a’i sgiliau busnes wrth astudio Busnes a Ffasiwn yn Llundain. Mae Mia Morgan wedi ennill prentisiaeth gradd gydag Airbus, gan gyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad diwydiannol ymarferol.  Bydd Natasha Morris yn dechrau ei thaith broffesiynol mewn swydd weinyddol yn Yswiriant Rees Astley. Bydd Harri Gethin, Freya Lloyd Jones, a Masimba Machado i gyd yn cychwyn ar gymwysterau Cyfrifeg AAT, gyda chyfleoedd ar gael mewn lleoliadau ar draws y DU.

Dywedodd y darlithydd Harriet Bailey: “Rydyn ni’n hynod o falch o’u cyflawniadau ac yn hyd yn oed yn fwy cyffrous o ran beth fydd yn digwydd nesaf

Chwaraeon – Lefel 3
Mae’r dysgwyr a gyflawnodd Rhagoriaeth yn cynnwys Aaron Powell, a fydd yn treulio blwyddyn i ffwrdd, Morgan Harding, a fydd yn astudio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, Lucy Jones, a fydd yn mynd i Brifysgol Loughborough, a Joe Morgan, a fydd hefyd yn treulio blwyddyn i ffwrdd.

Dywedodd y darlithydd Lisa Dodds wrth eu canmol: “Mae eich ymrwymiad, eich gwaith caled a’ch dyfalbarhad wedi bod yn werth chweil. Mae’r dyfodol yn ddisglair ar gyfer pob un ohonoch chi!”

Gofal Plant – Lefel 3
Mae canlyniadau rhagorol yn cynnwys graddau A* i Ffion Pryce, Olivia Dillon, Esyllt Powell, Phoebe Castree, Elisia Thomas, a Lia Bentley. Mae Ella Davis wedi cael swydd amser llawn mewn meithrinfa. Yn gynharach eleni, cyflawnodd myfyrwyr Lefel 3 mewn Gofal Plant i’r eithaf yn eu harholiad Uned 330, gyda chwech o fyfyrwyr yn cyflawni Rhagoriaeth, dau yn ennill Teilyngdod ac un yn Llwyddo.

Dywedodd y darlithydd Laura Thomas: “Dyma gymhwyster anodd, felly mae’r canlyniadau hyn yn dangos pa mor dda y mae pawb wedi perfformio.”

Iechyd a Gofal Cymdeithasol
O drechu heriau personol i gyflawni’r graddau uchaf, mae dysgwyr wedi disgleirio ym Mlwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Cyflawnodd Klaudia Raczjakowska radd A ac mae hi’n ymchwilio i yrfa mewn seicoleg fforensig yn y dyfodol. Enillodd Esme Price 2 radd A a gradd B a bydd yn symud ymlaen i astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd y darlithydd Russell Coleman: “Mae’r holl fyfyrwyr wedi gwneud cynnydd enfawr drwy ymdrechu a dangos ymrwymiad personol.”

Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth
Cyflawnodd dysgwyr Lefel 3 Shaylee Longman, Sereh Morgan-Page, a Mason Clements raddau Clod a Rhagoriaeth. Trefnwyd digwyddiadau cymunedol ganddynt, yn cynnwys te prynhawn elusennol ar gyfer Severn Hospice a chinio i ddathlu pen-blwydd yn bedwar ugain oed preswylydd lleol.

Y Cyfryngau
Cyflawnodd Catrin Evans Ragoriaeth a bydd hi’n symud ymlaen i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dysgwyr yn y Gymuned sy’n Oedolion
Cyflawnodd Nikoleta Gergova Lefel 2 Mynediad Sylfaen i Addysg Uwch ochr yn ochr ag ESOL a TGAU mewn Mathemateg a Saesneg. Mae hi’n anelu at ddilyn gyrfa fel bydwraig.

Dywedodd darlithydd Michael Fletcher: “Mae Nikoleti yn un o’r unigolion prin sy’n dewis llwybr anodd am ei fod yn mynd i wneud gwahaniaeth i lawer.”

Hyfforddiant Pathways – Prentisiaethau
Roedd dysgwyr yn llwyddiannus ar draws ystod eang o gymwysterau galwedigaethol a phroffesiynol mewn adeiladwaith, peirianneg, busnes a chyfrifeg.  Mae llawer ohonynt yn symud ymlaen i astudiaethau Lefel 4 neu i’r byd gwaith.

Uchafbwyntiau Coleg Bannau Brycheiniog

Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygiad
Cyflawnwyd canlyniadau rhagorol gan Georgina Ganly a enillodd A*, Summera Zafar a oedd hefyd yn ennill A*, Amy Griffiths a gyflawnodd A, a Daisy Davies a oedd hefyd wedi ennill A.

Chwaraeon – Diploma Estynedig
Cyflawnodd Riley Bujok Ragoriaeth.

Busnes – BTEC
Cyflawnodd Tom Wilding Ragoriaeth.

Ar draws y ddau goleg, mae’r canlyniadau yn adlewyrchu ymrwymiad, dyfalbarhad ac awydd anhygoel i ddysgu. Mynegodd staff eu balchder o ran y cyflawniadau academaidd ond hefyd y twf personol a’r uchelgais a ddangoswyd gan eu dysgwyr.