Gwobr Cymdeithas Sir Drefaldwyn am Addysg Bellach

Newtown College Health and Social Care student, Keeleigh Tonks with her lecturers after being awarded the prestigious Montgomeryshire Society Prize for Further Education 2026.

Llongyfarchiadau i fyfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Y Drenewydd, Keeleigh Tonks, ar ennill Gwobr fawreddog Cymdeithas Sir Drefaldwyn am Addysg Bellach 2026.

Mae Cymdeithas Sir Drefaldwyn yn sefydliad elusennol wedi’i leoli yn Llundain y mae ei aelodau’n rhannu diddordeb cryf yn Sir Drefaldwyn, Cymru. Mae gan y Gymdeithas draddodiad hirhoedlog o gefnogi myfyrwyr yn y Coleg drwy gynnig y cyfle i gael eu cydnabod drwy ei gwobr Addysg Bellach.

Mae Keeleigh, myfyrwraig Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei hail flwyddyn, wedi gwahaniaethu ei hun trwy wydnwch, penderfyniad ac aeddfedrwydd eithriadol yn wyneb heriau personol sylweddol. Drwy gydol ei hastudiaethau, mae hi wedi llwyddo i gydbwyso ei hymrwymiadau academaidd ochr yn ochr â dwy swydd ran-amser.

Er gwaethaf y gofynion hyn, mae Keeleigh wedi cynnal presenoldeb rhagorol (97%) a phrydlondeb perffaith (100%), wrth gyflawni canlyniadau academaidd cryf, gan ennill graddau A–B yn gyson. Mae hi’n parhau i ganolbwyntio ar ei huchelgais o ddod yn barafeddyg ac yn gweithio’n ddiwyd o hyd tuag at y nod hwn.

Mae ymroddiad Keeleigh yn rhywbeth y mae ei darlithwyr yn ymwybodol iawn ohono. Dywedodd y darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Russell Coleman:
 “Mae ymrwymiad, dyfalbarhad ac agwedd gadarnhaol Keeleigh yn golygu ei bod yn sicr yn haeddu cydnabyddiaeth am y wobr hon.”

Cyflwynwyd y wobr gan Reolwr Coleg Y Drenwydd, Steve Cass, a fynegodd ei ddiolch i Gymdeithas Sir Drefaldwyn am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad parhaus i gydnabod ac ysbrydoli myfyrwyr ar hyd eu taith addysgol.