Dawns: Gweithgareddau Cyfoethogi

 

Cwmni dawns LIFT

Wedi’i sefydlu yn 2005, mae’r cwmni dawns ieuenctid unigryw hwn yn rhoi cyfle blynyddol i fyfyrwyr o Goleg Castell-nedd i weithio’n ddwys gyda’r coreograffwyr sy’n darlithio tuag at greu gwaith dawns newydd ac arloesol yn barod i’w berfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe. Gwahoddir myfyrwyr i gael clyweliad a bydd y rhai sy’n ddigon ffodus i gael cynnig lle yn ymrwymo i 2-4 awr ychwanegol o amser ymarfer yn y stiwdio bob wythnos. Mae’r coreograffwyr wedi cynnwys Craig Coombs (Cyfarwyddwr y Cwmni), Saydi Jones, Elise Addiscott, Vicky Burroughs, Nia Collier, Stacy Panico, Terry Michael, Natalie Partridge, Matthew Howells ac Amelia Cunliffe. Mae’r cwmni hefyd wedi cydweithio gyda Chwmni Dawns One Vision a pherfformio gyda Bale Cymru, Dawns Powys, Cynyrchiadau Jermin ac yn Llwyfan Dawns Ieuenctid Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Academi Dawns Dawnswyr Cyswllt LIFT

Wedi’i sefydlu yn 2006, mae hyn yn gwahodd dawnswyr ifanc 14-16 oed i mewn i’r coleg o ysgolion uwchradd lleol i brofi hyfforddiant dawns ac i ddatblygu eu sgiliau mewn dawns cyn ymrwymo i gwrs dawns llawn amser yn y Coleg. Mae Craig Coombs (Arweinydd Pwnc a Chydlynydd Cwrs lefel 3 Dawns) yn cynnal dosbarthiadau dawns wythnosol sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth o ddulliau dawns technegol, tra’n datblygu sgiliau coreograffi a pherfformio. Mae dawnswyr yr Academi hefyd yn cael y cyfle i berfformio ochr yn ochr â chwmni dawns LIFT yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe bob blwyddyn. Mae’r tiwtoriaid ar y cwrs hwn wedi cynnwys Craig Coombs (Cyfarwyddwr yr Academi), Caryn Pritchard, Abbie Bassie, Matthew Howells a Vicky Burroughs.

Cynyrchiadau Fairy Tale

Wedi’i sefydlu yn 2015, mae hwn yn gyfle dawns cynhwysol ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno cymryd rhan mewn cynhyrchiad dawns Nadolig. Unwaith y maent wedi cael clyweliadau, gwahoddir myfyrwyr i ymarfer allgyrsiol wythnosol 3 awr (mwy os mewn prif rôl), i weithio tuag at greu cynhyrchiad dawns gwreiddiol a berfformir yng Nghanolfan Celfyddydau Nidum. Mae’r prosiect hwn yn gwahodd myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau yn yr holl arddulliau dawns a meithrin eu sgiliau adrodd stori theatrig trwy ddawns hefyd. Yn y blynyddoedd blaenorol mae’r cynyrchiadau wedi cynnwys ‘Nutcracker’, ‘Neverland’, ‘Wonderland’ ac ‘Emerald City’. Cynigir y cyfle hwn hefyd i fyfyrwyr Cyswllt Dawns Academi LIFT ac mae ganddo gysylltiadau gyda dawnswyr o ysgolion uwchradd lleol. ac ysgolion dawns preifat. Mae’r coreograffwyr wedi cynnwys Craig Coombs (Cyfarwyddwr Artistig), Elise Addiscott a Saydi Jones.

Gŵyl Ddawns yr Haf

Wedi’i sefydlu yn 2014, mae hon yn ŵyl ddawns wythnos o hyd a gynhelir yn flynyddol (ym mis Mehefin) ac mae’n agored i’r holl fyfyrwyr ar draws Coleg Castell-nedd. Mae’r ŵyl yn gwahodd gweithwyr proffesiynol y diwydiant dawns i addysgu gweithdai dawns a dosbarthiadau meistr i bawb sy’n cymryd rhan. Mae’r ŵyl hefyd yn sefydlu cysylltiadau â phrifysgol ar gyfer myfyrwyr dawns lefel 3 ac yn caniatáu amser ar gyfer datblygu sgiliau uwch. Ceir dosbarthiadau proffesiynol dan arweiniad Matthew Gough, Gwyn Emberton, Bale Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Harriot Eton, Gregory Sage, Michael Williams, Robyn Stack, Daniella Powell, Jalisa Andrews, Guzel Atymtayeva, Shakara a Deavion Brown.

Lleoliadau Hyfforddiant Proffesiynol

Anogir myfyrwyr dawns lefel 3 (BTEC a safon Uwch) i drefnu lleoliadau proffesiynol ar adegau addas drwy gydol y flwyddyn. Diben hyn yw eu paratoi yn well ar gyfer y diwydiant, addysg uwch a chyrsiau hyfforddiant dawns proffesiynol. Mae lleoliadau myfyrwyr wedi cynnwys amser gyda Bale Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Trinity Laban, Arts Educational School, Liverpool Institute of Performing Arts, Cynyrchiadau Jermin, Cymdeithas Opera Amatur Castell-nedd, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cwmni Theatr Gerddorol Ovation, Cwmni Theatr Gerddorol Impact, Cwmni Dawns Ieuenctid Sirol Motion X, Northern School of Contemporary Dance, London Studio Centre a’r London School of Contemporary Dance.

Profiad Gwaith Dawns Broffesiynol

Ym aml mae myfyrwyr dawns ar y cyrsiau lefel 3 BTEC a Safon Uwch Dawns yn cael y cyfle i weithio’n broffesiynol tra’n astudio yn y coleg. Gall cyfleoedd amrywio o flwyddyn i blwyddyn ond maent wedi cynnwys perfformiadau dawns gyda; The Black Eyed Peas, Bright Light Bright Light, Bale Cymru, Wow Productions, Cwmni Dawns Dynion, TAN Dance, Mariinsky Ballet a Gwyn Emberton Dance.

Rhaglen Tiwtor Personol Arbenigol

Wedi’i sefydlu yn 2006, mae Craig Coombs (Cydlynydd y Cwrs lefel 3 Dawns) yn cynnig hyfforddiant arbenigol gyda’r nod o baratoi’r holl fyfyrwyr lefel 3 BTEC Dawns ar gyfer clyweliadau mewn addysg uwch a chyrsiau hyfforddi mewn astudiaethau cysylltiedig â dawns; theatr gerddorol; cyfoes; bale; coreograffi; masnachol; jazz a tap. Nod y cwrs hwn yw paratoi myfyrwyr yn ymarferol ar gyfer cyrsiau lefel sylfaen, diploma, proffesiynol a gradd, gan gynnig cymorth gyda thechnegau cyfweliad a chlyweliad, ochr yn ochr ag arweiniad ar ysgrifennu ceisiadau a gwneud cais am gyllid myfyrwyr.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at craig.coombs@nptcgroup.ac.uk