Amdanom ni

Mae Addysg Gyda’n Gilydd DU (AGGDU) yn gynghrair o golegau cyhoeddus o bob rhan o’r Deyrnas Unedig (DU). Ein cenhadaeth yw cefnogi partneriaid yn America Ladin a’r Caribî i gyflwyno prosiectau a rhaglenni addysg. Mae AGGDU yn defnyddio arbenigedd cyfunol colegau i ddarparu’r gwasanaethau canlynol i bartneriaid rhyngwladol:

  • Rhaglenni symudedd i fyfyrwyr, athrawon ac arweinwyr addysg
  • Datblygiad proffesiynol i athrawon ac arweinwyr addysg
  • Achrediad y DU o raglenni rhyngwladol
  • Meithrin gallu
  • Datblygu cwricwlwm
Ein Haelodau

Cawsom ein sefydlu yn 2022 gan ein haelodau sefydlu – Coleg Dinas Glasgow, Grŵp Colegau NPTC a Grŵp Coleg Swydd Warwick. Mae ein haelodau sefydlu yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol AGGDU. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhwydwaith ehangach o golegau cyswllt sy’n cynorthwyo’r gwaith o gyflawni prosiectau ar raddfa fawr.