Mae llawer o fyfyrwyr, am amrywiaeth o resymau, angen cymorth ychwanegol i lwyddo gyda’u hastudiaethau a chyflawni eu potensial. Mae gan y Coleg hanes ardderchog o gefnogi myfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac Anableddau. Mae ein myfyrwyr yn cael eu cefnogi mewn amgylchedd gofalgar ac anogol gan ein tîm cymorth arbenigol.
Rydym yn credu mewn cynnwys myfyrwyr o’r cychwyn cyntaf, gan eu gosod yng nghanol y broses cynllunio a gwneud penderfyniadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda rhieni, ysgolion, ac asiantaethau allanol i sicrhau bod y pontio i’r coleg yn rhedeg yn esmwyth.
Ein nod yw i meithrin myfyrwyr i ennill mwy o annibyniaeth.
Mae Grŵp Colegau NPTC yn deall bod dechrau mewn Addysg Bellach yn gam mawr. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, Gyrfa Cymru a’n hawdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth am anghenion oedolion a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai a allai fod â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) o dan ddeddfwriaeth ADY newydd Cymru.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n hawdurdodau lleol ar draws Powys a Chastell-nedd Port Talbot. Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth a chymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd y tîm addysgu yn adolygu cynnydd dysgwyr yn rheolaidd.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chi mewn gwahanol ffyrdd. Bydd y tîm addysgu yn gosod nodau i ddysgwyr fel rhan o’u gwersi dyddiol. Byddant hefyd yn chwilio am unrhyw beth a allai wneud dysgu’n anoddach ac yn rhoi cefnogaeth addas ar waith.
Mae’r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gweithio’n agos gyda staff addysgu i gynnal adolygiadau gyda’r dysgwyr rydyn ni’n eu cefnogi. Yn ystod pob adolygiad, rydyn ni’n sicrhau bod llais, anghenion a phrofiadau’r dysgwr wrth wraidd y sgwrs. Rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi ac yn croesawu’r cyfraniadau pwysig y gall rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid eu cynnig fel rhan o’r broses.
Ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn academaidd y coleg, mae croeso i rieni, gofalwyr neu warcheidwaid ymweld â’r coleg i drafod cynnydd eu person ifanc.
Mae gan bob Awdurdod Lleol (ALl) berson dynodedig ar gyfer ôl-16.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r ALl i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i bobl ifanc ag ADY sy’n symud i addysg bellach. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i ddod yn fwy cyfarwydd â champws y coleg, cwrdd â staff a/neu gymryd rhan mewn sesiynau blasu (lle bo ar gael).
Os ydych chi’n anfodlon â phenderfyniad a wnaed ynghylch ADY, mae gennych chi’r hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru. Nhw sy’n gwneud penderfyniadau ar apeliadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol. Mae gwybodaeth am pryd a sut y gallwch chi wneud apêl ar gael ar eu gwefan: http://educationtribunal.gov.wales Rhaid gwneud apeliadau o fewn 8 wythnos i benderfyniad gael ei wneud; fodd bynnag, os defnyddir gwasanaethau datrys anghydfodau, mae’r amserlen ar gyfer apelio yn cael ei hymestyn am wyth wythnos arall.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac eisiau cyngor, arweiniad a chymorth annibynnol, gallwch gysylltu â SNAP Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cymorth am ddim i bobl ifanc sydd â/neu a allai fod â anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys datrys anghydfodau ac eiriolaeth sy’n seiliedig ar faterion ADY. Gallwch ddysgu mwy am SNAP Cymru yn www.snapcymru.org. Gallwch hefyd gysylltu â SNAP Cymru drwy’r llinell gymorth ar 0808 801 0608 neu drwy lenwi ffurflen ymholiadau yn www.snapcymru.org/contact.
Os ydych chi’n anfodlon ag unrhyw benderfyniad ynghylch ADY, cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) y coleg, Natalie Joseph, ar 03308189007 neu e-bostiwch natalie.joseph@nptcgroup.ac.uk. Byddant yn gweithio gyda chi i ddatrys unrhyw bryderon a godwch ynghylch ystyried ADY.
Er mwyn nodi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a fydd yn cofrestru yn y coleg, rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion lleol a’r Awdurdod Addysg Lleol.
Mae’r Cod ADY yn dweud bod yn rhaid i’r coleg gael caniatâd y person ifanc i gynnal neu ysgrifennu CDU. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei drafod, fel bod y person ifanc yn deall ei hawliau, ac yn cael cyfle i rannu ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau.
Mae ein Swyddogion Pontio ac Adolygu Coleg yn mynychu cyfarfodydd adolygu ysgolion ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Maent yn gwneud hyn i ddeall anghenion pob dysgwr a chasglu’r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n dda pan fyddant yn dechrau yn y coleg.
Anogir pob Dysgwr i ddatgelu unrhyw ADY neu rwystrau i ddysgu ar ffurflen gais y coleg.
Yn ystod nosweithiau agored a digwyddiadau derbyn, bydd y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
O dan Ddeddf ADY 2018 a’r Cod ADY, bydd person ifanc yn dod yn berson ifanc unwaith y bydd yn cyrraedd diwedd oedran ysgol orfodol (h.y. dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn y mae’r person ifanc yn troi’n 16 oed).
Mae’r gyfraith hon yn dweud y bydd hawliau rhieni mewn perthynas ag addysg ADY y person ifanc yn trosglwyddo’n awtomatig i’r person ifanc ei hun unwaith y bydd yn cyrraedd 16 oed.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a cholegau fel arfer ymgysylltu’n uniongyrchol â’r person ifanc yn hytrach na’i rieni.
Os yw’r person ifanc yn rhoi caniatâd, bydd rhieni a gofalwyr yn parhau i fod yn rhan o’r trafodaethau; fodd bynnag, y person ifanc sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch caniatâd i gael Cynllun Datblygu Unigol (CDU) wedi’i baratoi a’i gynnal.
Sut i ddod o hyd i ni?
Mae ein tîm wedi’i leoli ar bob un o’n campysau Parthau Myfyrwyr ac maent ar gael i gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth i bob myfyriwr.
Gallwch drefnu i siarad neu gwrdd â’n Tîm Cymorth Myfyrwyr ar un o’n campysau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9 am a 4.30 pm.
Neu gallwch lenwi’r ffurflen isod i sgwrsio â ni am gyngor neu help.