Beth ydy Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yn ei wneud?

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei redeg gan y myfyrwyr, ar gyfer y myfyrwyr. Eu rôl yw sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar lefel uwch reolwyr, gwrando ar fyfyrwyr o bob rhan o’r Colegau, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn, eich helpu i gwrdd â phobl newydd, a chreu cymuned myfyrwyr gynhwysol a chyfeillgar. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â student-union@nptcgroup.ac.uk

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau Undeb y Myfyrwyr?

Roeddem am ei wneud yn lle mwy deniadol i fyfyrwyr. Mae coleg yn lle rydych chi’n stopio am gyfnod byr, ond lle gall cyfeillgarwch, sgiliau a chymwysterau bara am byth. Roeddem am i fyfyrwyr deimlo ei fod yn amgylchedd cysylltiedig y gallant ei fwynhau.

Pam dylai myfyrwyr ymuno ag Undeb y Myfyrwyr?

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gyfle i wneud ffrindiau a mwynhau awyrgylch coleg amrywiol a bywiog. Mae’r Undeb yn rhoi cyfle arall i chi leisio’ch barn, os na fyddwch chi’n siarad am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ni ellir gwneud gwelliannau.

Dewch o hyd i ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol!

Instagram Logo

TikTok Logo