Mae NPTC Group of Colleges wedi ymrwymo i helpu disgyblion sy’n gadael yr ysgol i wneud y dewis cywir a chyflawni eu huchelgeisiau.
Os ydych chi’n gadael yr ysgol ac yn ystyried eich camau nesaf, rydym yn cynnig ystod wych o gyrsiau Lefel A amser llawn, cyrsiau galwedigaethol sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, a phrentisiaethau – pob un yn cael ei ddarparu mewn amgylcheddau sy’n adlewyrchu byd gwaith.
Rydym hefyd yn darparu cymorth unigol i’ch helpu i lwyddo, gyda chanllawiau wedi’u teilwra i’ch diddordebau, eich nodau a’ch dyheadau.
Drwy ddewis astudio gyda ni, byddwch yn elwa ar staff cymwys iawn sydd â phrofiad helaeth o’r diwydiant, yn ogystal â mynediad at gyfleusterau rhagorol, adnoddau arbenigol ac ystod eang o gyfleoedd allgyrsiol. Mae’r rhain yn cynnwys ein Canolfan Menter a Chyflogadwyedd, yn ogystal â’n Hacademïau Chwaraeon, Cerddoriaeth a Dawns.
Archwiliwch ein cyrsiau amser llawn i’r rhai sy’n gadael yr ysgol isod. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r cwrs cywir i chi, cliciwch y botwm ‘Gwneud Cais Nawr’ ar dudalen y cwrs i ddechrau eich cais.
Gallwch ddarganfod mwy am ein tudalen ‘Sut wneud i cais’.