BETH YW LLYWODRAETHU YN GRWP COLEGAU NPTC?

Mae llywodraethu yn ymwneud â’r syniadau, y strwythurau a’r systemau hynny sy’n siapio cyfeiriad a rheolaeth strategol y Coleg er budd ei holl randdeiliaid – y myfyrwyr, eu rhieni, cyflogwyr presennol ac yn y dyfodol, y staff a’r gymuned ehangach o fuddiannau sy’n yn cael eu cymryd yn eu cyfanrwydd yn adlewyrchu ac yn cynrychioli Castell-nedd Port Talbot a Powys.

Mae llywodraethwyr, trwy Fwrdd y Gorfforaeth a’i Bwyllgorau, yn gyfrifol am genhadaeth, cyfeiriad strategol a diogelwch ariannol y Coleg. Mae’r Uwch Dîm Rheoli, dan arweiniad y Prif Swyddog Gweithredol, yn gyfrifol am reolaeth strategol y Coleg a gweithredu polisi’r Gorfforaeth.

Rhan o ethos rheoli Grŵp Colegau NPTC yw ymrwymiad i fod yn agored, tryloywder, gonestrwydd ac atebolrwydd trwy roi cymaint o wybodaeth ag sy’n rhesymol i’r parth cyhoeddus heb gyfaddawdu cyfrinachedd busnes a hawl gyfreithiol yr unigolyn.

Cofrestr Buddiannau

Gellir dod o hyd fan hyn i gofrestr buddiannau sy’n nodi meysydd a gweithgareddau Llywodraethwyr a Rheolwyr â chyfrifoldebau cyllidebol er mwyn atal unrhyw fuddiannau rhag gwrthdaro â busnes y Coleg:

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch Bwrdd Corfforaeth Grŵp Colegau NPTC at y Pennaeth Cynorthwyol: Llywodraethu, Gemma Charnock, Grŵp Colegau NPTC, Ffordd Dwr y Felin, Castell-nedd, SA10 7RF neu drwy e-bost at gemma.charnock@nptcgroup. ac.uk

Rydym yn croesawu ceisiadau am ohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ymateb yn ddi-oed. Os oes angen unrhyw un o’r dogfennau uchod arnoch yn Gymraeg, e-bostiwch gemma.charnock@nptcgroup.ac.uk

DOLENNI CYSWLLT DEFNYDDIOL