Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Rhagoriaeth mewn Chwaraeon?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis athletwr, hyfforddwr chwaraeon neu swyddi tebyg.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Arwain a Rheoli Tîm a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos am hyd at 22 mis.
Rydym yn cynnig:
Lefel 3
Prentisiaeth
Gallai’r unedau gynnwys: Rheoli perfformiad tîm, egwyddorion rheoli pobl, egwyddorion busnes, egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth, rheoli datblygiad personol a phroffesiynol, a llawer mwy
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Diploma mewn Arwain/Rheoli Tîm
- Diploma Cyfrannol mewn Chwaraeon
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at lwybrau arbenigol, megis:
- Gradd Sylfaen mewn Hyfforddiant Chwaraeon
- Gwyddor Chwaraeon
- Gwyddor Chwaraeon gyda Datblygu a Rheoli Chwaraeon.