Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Gwaith Chwarae?
Bydd y cymwysterau hyn yn rhoi’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth angenrheidiol i ddysgwyr i gwrdd â gofynion y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr chwarae.
Yn Hyfforddiant Pathways, rydym yn darparu Prentisiaethau mewn Gwaith Chwarae a fydd yn rhoi cymhwyster a gydanabyddir yn genedlaethol i ddysgwyr. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle a chael y cyfle i fynychu gweithdai wedi’i hamserlennu.
Rydym yn cynnig:
Lefel 2
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am swyddogaeth gweithiwr chwarae lefel 2 wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 4-16. Darparir dealltwriaeth o reoli amgylcheddau chwarae a gweithdrefnau rheoli staff eraill. Mae’r Ddiploma yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd eu heisiau wrth weithio heb oruchwyliaeth.
Lefel 3
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am swyddogaeth gweithiwr chwarae lefel 3 wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 4-16. Darparir dealltwriaeth o reoli amgylcheddau chwarae a gweithdrefnau rheoli staff eraill. Mae’r Ddiploma yn cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd eu heisiau wrth weithio heb oruchwyliaeth.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Diploma mewn Gwaith Chwarae
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymwhyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Bod 16 oed neu hŷn i astudio Lefel 2
- Bod 18 oed neu hŷn i astudio Lefel 3
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at lwybrau arbenigol, megis:
- Gradd Sylfaen yn y Blynyddoedd Cynnar