Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Cynorthwy-ydd Addysgu?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis cynorthwyydd cymorth dysgu, cynghorydd cymorth i rieni, cynorthwyydd addysgu, mentor dysgu neu swyddi tebyg.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer dysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i’r coleg un diwrnod bob mis am 15 mis.
Rydym yn cynnig:
Lefel 2
Prentisiaeth Sylfaen
Gallai’r pynciau gynnwys: Deall sut i ddiogelu lles plant a phobl ifanc, datblygiad plentyn a pherson ifanc, cefnogi ymddygiad cadarnhaol plant a phobl ifanc, a llawer mwy.
Lefel 3
Prentisiaeth
Gallai’r pynciau gynnwys: Deall sut i ddiogelu lles plant a phobl ifanc, cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc, cefnogi asesu ar gyfer dysgu, a llawer mwy.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Tystysgrif/Diploma mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at:
- Gynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU)
- Cymwysterau Lefel 4 mewn maes perthnasol