Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Adeiladu?
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Adeiladu a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr sy’n berthnasol i’r llwybr a gymerir. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos am 1 neu 2 flynedd, yn dibynnu ar lefel y Brentisiaeth.
Rydym yn cynnig:
LEFEL 2
Prentisiaeth Sylfaen
Gallai’r pynciau gynnwys:
- Gwaith Brics
- Cynnal a Chadw Adeiladau
- Gwaith Coed neu Saernïaeth Mainc
- Aml-fasnach
- Paentio ac Addurno
- Plastro
- Plymio
LEFEL 3
Prentisiaeth
- Gwaith Brics
- Cynnal a Chadw Adeiladau
- Gwaith Coed neu Saernïaeth Mainc
- Peirianneg Sifil
- Gosodiadau Trydanol
- Aml-fasnach
- Paentio ac Addurno
- Plastro
- Plymio
LEFEL 4
Higher Apprenticeship
- Goruchwylio Safleoedd Adeiladu
- Peirianneg Sifil
- Gwasanaeth Mesur Meintiau
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
Tystysgrif Dechnegol yn y ddisgyblaeth berthnasol
- Tystysgrif Dechnegol yn y ddisgyblaeth berthnasol
- CGC (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol) yn y ddisgyblaeth berthnasol
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol (plymio yn unig)
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at:
- Brentisiaeth Uwch Lefel 6 mewn Goruchwylio Safleoedd
- Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Astudiaethau Adeiladu