Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Garddio a Garddwriaeth?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis garddwr, tirluniwr neu dirmon.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Garddwriaeth a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos am hyd at 2 flynedd.
Rydym yn cynnig:
Lefel 2
Prentisiaeth Sylfaen
- Tirlunio
- Cynnal a Chadw Tir
- Cynhyrchu mewn Meithrinfa
Gallai’r pynciau gynnwys cynnal a chadw tir, lluosogi planhigion, datblygu safle a phlannu, defnyddio a chynnal a chadw peiriannau.
Lefel 3
Prentisiaeth
Gallai’r pynciau gynnwys gwyddor planhigion a phridd, rheoli, cynnal a chadw tir, cynnal a monitro prosiectau tirlunio, defnyddio planhigion addurnol, lluosogi planhigion wedi ei gynllunio, rheoli meithrinfa.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Diploma Garddwriaeth Seiliedig ar Waith
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth, caiff y dysgwyr symud ymlaen at:
- Gyflwyno cais am swyddi megis garddwr neu oruchwylydd ar gyfer gerddi botaneg, parciau a mannau gwyrdd trefol
- Symud ymlaen at y Brentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Garddwriaeth