Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Gofal Plant?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis cynorthwyydd meithrin neu ymarferydd gofal plant.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Gofal Plant a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i’r coleg un diwrnod y mis am 15 mis.
Rydym yn cynnig:
Lefel 2
Prentisiaeth Sylfaen
Gallai’r pynciau gynnwys: Deall sut i ddiogelu lles plant a phobl ifanc; cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc drwy chwarae; datblygiad plentyn a pherson ifanc, a llawer mwy.
Lefel 3
Prentisiaeth
Gallai’r pynciau gynnwys: Deall sut i ddiogelu lles plant a phobl ifanc; cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc; cefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu plant, a llawer mwy.
Lefel 5
Prentisiaeth Uwch
Gallai’r pynciau gynnwys: Deall sut o gefnogi staff i ddiogelu lles plant a phobl ifanc; cefnogi iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc, rheoli goruchwyliaeth ac arwain a rheoli tîm.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Diploma mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at:
- Ddiploma Lefel 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
- Gradd Sylfaen yn Y Blynyddoedd Cynnar