Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Arwain a Rheoli Tîm?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis arweinydd, goruchwylydd, rheolwr tîm neu swyddi tebyg.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig prentisiaethau mewn arwain a rheoli tîm a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle am hyd at 18 mis.
Rydym yn cynnig:
Lefel 3
Prentisiaeth
Gallai’r unedau gynnwys: Rheoli perfformiad tîm, egwyddorion rheoli pobl, egwyddorion busnes, egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth, rheoli datblygiad personol a phroffesiynol, a llawer mwy.
Lefel 4 & 5
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Datblygu’r sgiliau, gwybodaeth a galluoedd personol a fydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Lefel 4
Rheolwyr canol newydd a darpar-reolwyr canol
Syniadau ar gyfer unigolion sydd eisiau gwella eu gwybodaeth a’u sgiliau technegol i fod yn arweinydd effeithiol.
Lefel 5
Rheolwyr prosiect, penaethiaiaid adran a rheolwyr yng nghanol eu gyrfaoedd
Ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu a gwella eu gwybodaeth technegol a strategol ac ennill goleuni pellach ar y maes.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Diploma mewn Arwain/Rheoli Tîm
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth.
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at lwybrau arbenigol, megis
- Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli ac Arwain
- Llwybrau Arbenigol a Rheoli