Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Cerbydau Modur?

Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis technegydd cynnal a chadw cerbydau neu swyddi tebyg.

Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Cerbydau Modur a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos am hyd at 2 flynedd.

Rydym yn cynnig:

Lefel 2

Prentisiaeth Sylfaen

Gallai’r unedau gynnwys: Cynnal a chadw cerbydau ysgafn fel mater o drefn, sgiliau mewn deunyddiau, fabrigiadau, offer, dyfeisiau mesur yn yr amgylchedd modurol, tynnu ac amnewid unedau a chydrannau trydanol mewn cerbydau ysgeifn, a llawer mwy.

Lefel 3

Prentisiaeth

Gallai’r unedau gynnwys: Gwneud diagnosis o namau ar injan cerbydau ysgafn a’u trwsio, trwsio namau ar injan cerbydau ysgafn, gwneud diagnosis o namau ar ffrâm cerbydau ysgafn a’u trwsio, gwneud diagnosis o namau trydanol atodol ar gerbydau a’u trwsio, a llawer mwy.

Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:

  • Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgeifn/Diploma mewn Gwneud Diagnosis a Thrwsio Cerbydau Ysgeifn/Diploma mewn Ffitiadau Cerbydau
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i’r dysgwyr:

  • Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
  • Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth

Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.