Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Gweinyddu Busnes?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis cynorthwyydd/swyddog gweinyddu, arweinydd tîm gweinyddol, goruchwyliwr swyddfa, cynorthwyydd neu ysgrifennydd personol.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Gweinyddu Busnes a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i weithdai’r coleg am 15 mis.
Rydym yn cynnig:
Lefel 2
Prentisiaeth Sylfaen
Gallai’r pynciau gynnwys: cyfathrebu mewn amgylchedd busnes, deall sefydliadau cyflogwyr, egwyddorion darparu gwasanaethau gweinyddol, a llawer mwy.
Lefel 3
Prentisiaeth
Mae’r pynciau yn cynnwys rheoli datblygiad personol a phroffesiynol, egwyddorion cyfathrebu a gwybodaeth, egwyddorion busnes, a llawer mwy.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Diploma mewn Gweinyddu Busnes (FfCCh)
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr ymud ymlaen at Brentisiaeth Uwch, Gradd Sylfaen neu raglen debyg.