Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Gwasanaeth Cwsmeriaid?

 

Yn Hyfforddiant Pathways rydym yn darparu Prentisiaethau mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid a fydd yn rhoi cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol i ddysgwyr. Bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau ac yn gweithio tuag at eu cymhwyster yn y gweithle gyda chefnogaeth aseswr.

Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi rolau fel cynorthwyydd manwerthu, derbynnydd neu rolau eraill sy’n ymwneud â chwsmeriaid.

Rydym Yn Cynnig

TESTIMONIAL

Datganiad y Prentis

“Rwyf wedi mwynhau fy amser yn cwblhau fy nghymhwyster gwasanaeth cwsmeriaid yn fawr iawn. Rwy’n teimlo fel pe bawn i wedi dysgu llawer o sgiliau dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddaf yn gallu defnyddio’r rhain yn fy rôl i’m helpu i symud ymlaen ymhellach. Drwy gydol fy nghymhwyster, canfûm fod fy aseswr yn ddefnyddiol ac yn wybodus iawn pan oeddwn yn poeni am unrhyw beth, neu os oeddwn angen ychydig mwy o gefnogaeth. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn am yr hyder y mae wedi’i roi i mi”.

Faith Davies, DVLA.

Cysylltwch â Pathways Training am ragor o wybodaeth.

0330 818 8002

Pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk