Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol?
Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis gweithiwr gofal, gweithiwr cymorth, cynorthwyydd gofal dydd, gofalwr cartref neu swyddi tebyg.
Yn Pathways Training, rydym yn cynnig prentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle gyda chymorth Asesydd am 15 mis.
Rydym yn cynnig:
Level 2
Prentisiaeth Sylfaen
Gallai’r unedau gynnwys: Swyddogaeth y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol, deall problemau iechyd meddwl, ymwybyddiaeth o ddementia, achosion a lledaeniad heintiau, rhoi meddyginiaeth i unigolion a monitro’r effeithiau, a llawer mwy.
Level 3
Prentisiaeth
Gallai’r unedau gynnwys: Egwyddorion diogelu ac amddiffyn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, swyddogaeth y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol, deall problemau iechyd meddwl, deall anabledd corfforol, cynyddu ymwybyddiaeth am gyffuriau, alcohol neu sylweddau eraill gydag unigolion a grwpiau, a llawer mwy.
Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:
- Tystysgrif/Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i’r dysgwyr:
- Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
- Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth
Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.
At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?
Ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth, caiff y dysgwyr symud ymlaen at:
- Raglen Prentisiaeth Uwch
- Rhaglen arbenigedd neu addysg bellach