Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddiant Peirianneg?

Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi swyddi megis ffitiwr/turniwr cynnal a chadw, gwneuthurwr offer, trydanwr, dyfeisiwr, weldiwr neu swyddi tebyg.

Yn Pathways Training, rydym yn cynnig Prentisiaethau mewn Peirianneg a fydd yn darparu cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig i ddysgwyr. Bydd y dysgwyr yn datblygu sgiliau yn y gweithle ac yn mynd i’r coleg yn rheolaidd.

Rydym yn cynnig:

Lefel 2

Prentisiaeth Sylfaen

Gallai’r unedau gynnwys: Gweithio’n ddiogel mewn awyrgylch peirianyddol, gweithio’n effeithlon ac effeithiol ym maes peirianneg, defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol, cynhyrchu cydrannau drwy ddefnyddio technegau gosod â llaw, paratoi a defnyddio turnau ar gyfer gweithrediadau turnio a pharatoi a defnyddio peiriannau melino, cynnal a chadw offer trydanol, a llawer mwy.

Lefel 3

Prentisiaeth

Gallai’r unedau gynnwys: Cydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion diogelwch sefydliadol, gosod peiriannau melino CNC yn barod ar gyfer cynhyrchu, weldio deunyddiau drwy’r prosesau hanner awtomatig MIG/MAG ac arc cortyn fflwcs, weldio deunyddiau drwy’r broses weldio arc TIG a phlasma â llaw, gwneud diagnosis o namau ar offer a chylchedau trydanol, a llawe mwy

Mae’r prentisiaethau’n cynnwys:

  • Diploma Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2 yn unig)
  • Diploma Estynedig EAL yn y llwybr perthnasol
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhifau
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol mewn Llythrennedd Digidol
  • Gwella eich Dysgu a’ch Perfformiad eich Hun
  • Gweithio gydag Eraill
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i’r dysgwyr:

  • Fod yn byw neu’n gweithio yng Nghymru
  • Fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr bob wythnos drwy gydol y brentisiaeth

Mae’n rhaid i bob dysgwr gael asesiad cychwynnol.

At beth y bydd y cymhwyster yn arwain?

Ar ôl cwblhau pob lefel, caiff y dysgwyr symud ymlaen at Radd Sylfaen mewn Peirianneg Drydanol/Fecanyddol.