Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011. Ers ei sefydlu, mae’r Coleg yn cynllunio ac yn cefnogi darpariaeth Addysg Uwch Gymraeg mewn modd strategol ar draws prifysgolion Cymru. Yn dilyn adolygiad o weithgareddau’r Coleg yn 2016/17, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Coleg ymestyn ei waith i’r sector ôl-16, gan gwmpasu addysg bellach a phrentisiaethau. Nod y Coleg yw gweithio gyda darparwyr i sicrhau a datblygu mwy o gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid yng Nghymru.

Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt.  Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r gefnogaeth.

Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol drwy glicio ar y botwm isod!

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Meddwl am astudio Cymraeg?
Os hoffech astudio rhan o’ch prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, trafodwch gyda’ch tiwtor/asesydd i weld pa opsiynau sydd ar gael i chi.